Cartref
Croeso i'n Clwb
Prisiau

Newyddion

Gorffennaf 2004
Awst 2004
Medi 2004
Hydref 2004
Newyddion am ein stadiwm
Sut i gael hyd i ni
Hanes ein Clwb
Gemau/canlyniadau
Carfan tîm cyntaf
Academi/ieuenctid
Cym. Cefnogwyr
Noddi a hysbysebu
Siop y Clwb
Siopa ar-lein gyda CPDB
TÔT wythnosol
Clwb 200
Dolenni
Cysylltwch â'r Clwb

 

GWNEWCH EICH SIOPA AR-LEIN AR
www.buy.at/bangorcityfc
MYNNWCH FARGEINION PENIGAMP A CHEFNOWCH EIN CLWB!

BANGOR YN BACHU'R BLAENWR GRAY: Mae rheolwr Bangor Peter Davenport eto wedi symud yn benderfynol i lenwi bylchau yn y carfan trwy arwyddo'r blaenwr 20-oed Tony Gray, sydd yn ymuno gyda ni o glwb Newton, o Gyngrhair Orllewin Sir Gaer. Ychwaneg am Tony ar dudalen "carfan tîm cyntaf" (28 Medi 2004)

MYNNWCH FARGEINION AR-LEIN PENIGAMP A CHEFNOGWCH EIN CLWB: Rydym yn ddiweddar wedi ymaelodi mewn menter codi arian a all codi pres sylweddol i'r Clwb. Rydym wedi agor siop ar-lein www.buy.at/bangorcityfc sydd wedi cysylltu gyda wefanau nifer o siopau mwyaf amlwg y stryd fawr a mae CPD Dinas Bangor yn ennill comisiwn oddi wrthynt! Mae siopau megis Marks and Spencer, Amazon, Oddbins a lot mwy yn cymeryd rhan. Mae grwpiau eraill yn ennill comisiwn o £2 ar gyfartaledd ar bob pryniant - a dylwn medru gwneud tebyg. Felly, off a chi i siopa ar www.buy.at/bangorcityfc (27 Medi 2004)

BANGOR YN BACHU SGOTYN!: Rydym yn falch i ddatgan ein fod wedi arwyddo o Gaersws y chwaraewr ochr chwith canol-cae Kevin Scott. Dylai Kevin fod ar gael i'r gêm Cwpan Cenedlaethol yn erbyn Y Drenewydd. Ychwaneg o wybodaeth am Kevin, ewch i'r tudalen "Carfan Tîm Cyntaf". (27 Medi 2004)

TÔT: Rhifau 10 a 38. Dim enillydd, felly bydd jacpot wythnos nesaf yn £900.00.  Mae rhifau a ddewiswyd eisoes, a rhestr o’r enillwyr, ar dudalen y TÔT  (26 Medi 2004)

YN CROESAWU GÔL-GEIDWAD NEWYDD: Mae'r golwr Richard Acton wedi ymuno gyda ni o glwb TNS, a wnaeth y dechreuad gorau bosib trwy rhwystro blaenwyr NEWI Derwyddon Cefn yn ein buddugoliaeth 4 - 0. Ychwaneg o wybodaeth am Richard ar dudalen "Carfan tîm cyntaf". (25 Medi 2004)

YSGOLION PÊL DROED TYMOR YR HYDREF: Mae'r Clwb wedi ail-gychwyn sesiynau hyfforddi i'r ieuenctid, a chynhelir rhein trwy gydol yr hydref. Yna, bydd plant lleol yn cael y cyfle i ddysgu a datblygu eu sgiliau pêl droed dan ofal hyfforddwyr profiadol gyda chymhwysterau UEFA. Trwy gydol tymor yr hydref, cynhelir y sesiynau ym Maes Glas, Ffordd Ffriddoedd, Bangor ar nosweithiau Iau rhwng 4 - 5 pm i blant 5 - 8 oed, ac ar nosweithiau Fawrth rhwng 4 - 5 pm i'r sawl rhwng 9 - 14 oed. Cysyllter a Swyddog Cymunedol y Clwb, Lee Dixon ar  01248 811508 am ychwaneg o fanylion, neu e-bost info@bangorcityfc.com. (23 Medi 2004)

MANNAU POETH: Mae newyddiadurwyr gyda chyfriafaduron sydd a mynediad di-wifr i'r rhyngrwyd yn medru anfon ei adroddiadau yn gyflym a chyfleus o nifer o mannau poeth di-wifr sydd yn agos i Ffordd Farrar. Yn ôl y WiFi411 Online Hotspots directory mae tafarnau'r Waterloo, Tarw Du a'r Hen Glan i gyd gyda'r cyfleuster yma, felly bydd crachleniorion sychedus yn medru mwynhau peint wrth iddynt ffeilio eu chopi ar ôl y chwiban olaf. (21 Medi 2004)

CWPAN CYMRU: Rydym yn teithio (ond nid yn bell) i gwrdd a gwrthwynebwyr lleol - Penmaenmawr Phoenix - yn ail rownd Cwpan Cymru - y gem i'w chwarae ar Sadwrn 2 Hydref, amser y cic gyntaf i'w gadarnhau. (19 Medi 2004)

FFAIR Y GLAS: Bydd gan y Clwb a'r Cymdeithas Cefnogwyr presenoldeb ar y cyd yn Serendipity, Ffair y Glas Prifysgol Bangor at Fercher a Iau 22 a 23 Medi yn adeilad Undeb y Myfyrwyr. . Os ydych yn fyfyriwr newedd, eisioes yn fyfyiwr, neu os nad ydych yn fyfyriwr o gwbl ond digwydd bod yn yr ardal - tarwch heibio i ddweud helo. (15 Medi 2004)

Y CWPAN GENEDLAETHOL: Cadarnhad mai ar Mawrth 5 Medi, Cic Gyntaf am 6.55 pm oherwydd amserlenni teledu, bydd ein gem yn y Cwpan Genedlaethol yn erbyn y Drenewydd. Bydd yn gem yn cael ei darlledu'n fyw - felly setiwch eich periant fideo, dowch i Barc Latham i gefnogi'r hogiau ac i sicrhau awyrgylch penigamp - a gwylwch y gem eto wedi gyrraedd adref! (15 Medi 2004)

CLWB 200: Mr Roberts o Abergele yw'r enillydd am Fis Awst. Me Mr Roberts yn cipio wobr o £225.00. Manylion o enillwyr blaenorol ar dudalen y Clwb 200. (12 Medi 2004)

MYND A DOD: Mae'r Clwb wrth ei fodd i groesawu 'nol Phil Baker o Glwb Droylsden. Mae'r amiddiffynnwr canol talentog, y chwaraeodd cynt i Fangor yn 2003, wedi bod yn chwarae i Dinas Exeter ac Aberystwyth ymysg eraill yn y cyfamser. Ar yr un pryd, mae Bangor yn ffarwelio a'r chwaraewr canol cae Aled Rowlands sydd bellach wedi gadael y Clwb. Mae Aled wedi bod yn was ffyddlon i Ddinas Bangor dros y blynyddoedd, ond wedi dioddef nifer anffodus o anafiadau yn ddiweddar. Mae'r Clwb yn cofnodi ei diolch i Aled ac yn dymuno'n dda iddo i'r dyfodol. (9 Medi 2004).

TRADDODIAD TEULU DOGAN YN PARHAU:   Crewyd hanes yn y gêm rhwng Bangor a Chaernarfon yng Nghwpan Cynghrair Loosemeore pan ddaeth y chwaraewr canol cae ifanc Gareth Dogan ymlaen fel eilydd.  Golygai hyn fod pedair cenhedlaeth o’r teulu wedi chwarae dros y clwb ac mae Gareth yn dilyn ôl traed ei hen daid Thomas, ei daid Eddie a’i dad Chris a chwareodd i’r ail dîm yn y 1980au.  (3 Medi 2004)

 



Gareth Dogan: y bedwerydd genhedlaeth o'i deulu i chwarae i Fangor

 



Phil Baker: addiffynnwr dawnus yn ôl gyda Bangor

 



Kevin Scott - yn gwisgo lliwiau Caersws. Llun: www.sportpixs.co.uk

 



Richard Acton, ein golwr newydd

 




© 2004 Bangor City F.C.