SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH
Fel arfer rydym yn chwarae ein gemau cartref yn Stadiwm Ffordd Farrar, ac eithrio gemau Ewropeaidd a gynhelir ar feysydd eraill oherwydd rheolau UEFA.
I gael hyd i ni, cliciwch ar y linc berthnasol ar y chwith.
Mae’r datblygiadau diweddaraf yn awgrymu y byddwn yn symud o Ffordd Farrar o fewn ychydig flynyddoedd. Mae’r wybodaeth a ganlyn yn crynhoi’r prif gwestiynau sydd gan gefnogwyr am y symudiad.
Beth yw hyn dwi’n ei glywed bod y Clwb Pêl-droed yn symud?
Ydy, mae’n bosibl y bydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn symud o Heol Farrar i gae newydd yn Nantporth oddiar Heol Caergybi. Mae cais cynllunio amlinellol eisoes wedi ei chymeradwyo gan Gyngor Gwynedd, ac yn Hydref 2004 cyflwynwyd cais am gyfleuster gwell. Mae'r Clwb yn cefnogi'r ddau gais yma.
Beth sy’n bod ar Heol Farrar?
Mae’r stadiwm bresennol wedi dirywio a phrin y mae’n cwrdd â safonau diogelwch yr awdurdod lleol.
Oes rhaid i ni symud?
Oes. Mae Cyngor Dinas Bangor, perchennog cae Heol Farrar, wedi cael trafodaethau â datblygwyr sy’n dymuno adeiladu canolfan siopau ar y safle. Mae gan Glwb Pêl-droed Dinas Bangor drwydded gan y Cyngor i ddefnyddio’r stadiwm, ond os yw’r Cyngor yn dymuno defnyddio’r tir at ddibenion eraill yn hytrach na phêl droed, mae ganddo berffaith hawl i wneud hynny cyn belled â’u bod yn rhoi rhywle arall i ni yn ei le.
Ydy hynny’n golygu y byddwn ni heb gae? Nac ydy. Gall y Clwb aros yn Heol Farrar tan fydd y cae newydd wedi ei orffen, ond unwaith y bydd y cae newydd wedi ei orffen, bydd rhaid i’r Clwb symud.
Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd?
Mae trafodaethau rhwng Cyngor y Ddinas a’r datblygwr yn parhau. Er nad oes dyddiad wedi ei bennu mae’r datblygwr yn gobeithio selio’r fargen erbyn chwarter cyntaf 2005 felly mae'n bosib bydd gwaith adeiladu yn cychwyn pryd hynny. Unwaith y bydd y fargen wedi ei chytuno, bydd amserlen glir yn cael ei thrafod gan y partneriaid oll.
Pa faint o amser cyn y bydd gennym ni gae newydd yn Nantporth?
Gobeithiwn y bydd y cae newydd yn barod ar gyfer tymor 2007 ond mae hyn yn amodol ar drafodaethau rhwng y datblygwr a’r defnyddiwr yn y pen draw. Bydd amserlen datblygiad y maes ehangach yn dibynnu ar argaeledd cyllid.
Pa fath o gae y bydd Dinas Bangor yn ei gael?
Bydd y datblygwyr yn darparu cae newydd i Gyngor Dinas Bangor a fydd yn cwrdd â safonau Prif Gynghrair Pêl-droed Cymru a’r cytundebau sy’n bodoli eisoes.
Bydd hyn yn cynnwys cae chwarae, prif stand (â lle i 600) a fydd yn cynnwys ystafelloedd derbyn a chyfleusterau newid etc, terasau (â lle i 2,000), llifoleuadau ac ystafelloedd i’r wasg. Bydd cae hyfforddi â llifoleuadau a pharcio hefyd.
Ond roeddwn i’n meddwl bod angen stadiwm 3000 o seddau ar y Clwb ar gyfer gemau Cwpan UEFA etc
Rydym wedi sicrhau'r cam pwysig cyntaf o sefydlu’r egwyddor o gael cae pêl-droed yn Nantporth. Mae'r cais cynllunio llawn y cyflwynwyd yn Hydref 2004 yn dangos y bwriad o gael prif eisteddle mwy gyda thri o eisteddleoedd llai a chyfleusterau gwell eraill. Bydd y cae a ddisgrifiwyd uchod, i safonau Prif Gynghrair Pêl-droed Cymru – sydd mewn sawl ffordd yn well na’r cae sydd gennym ar hyn o bryd – yn cael ei ddylunio fel y gallwn ei ymestyn. Efallai bydd rhai i hwn fod yn ddatblygiad dros ddau gymal - cymal i ariannu'r maes i safon UGC, a chymal i ddatblygu'r cyfleusterau ehangach. Bydd materion cynllunio a chyllid yn effeithio ar union sut y bydd hwn yn datblygu. Y newyddion diweddaraf (Chwefror 2005) yw fod Cyngor Gwynedd dal i ystyried y cais yma.
Pwy sy’n talu am hyn i gyd?
Bydd y datblygwyr yn talu am y stadiwm. Os bydd eisiau mwy ar y Clwb, bydd rhaid iddo ddod o hyd i’r arian ei hun. Dyna pam y mae’n bwysig i gael mwy o gefnogwyr drwy’r giatiau a chefnogi ymdrechion fel diwrnodau hwyl, y tôt a’r Clwb 200. Hyd yn oed cyn i’r fricsen gyntaf gael ei gosod, efallai y bydd angen dod â help arbenigol i mewn er mwyn sicrhau cae o’r safon orau bosibl. Unwaith eto, bydd hyn yn costio arian.
A allwn ni gael cymorth grant? O bosib. Efallai y bydd grantiau ar gael i adeiladu, ac i brynu offer a gosodiadau. Ond er mwyn gwneud cais am grantiau i adeiladu yn Nantporth, bydd rhaid i’r Clwb gael prydles hir ar y tir gan Gyngor Dinas Bangor. Mae’r Clwb wedi cyfarfod â’r Cyngor i drafod gwneud cais am brydles ac yn awr rydym wedi cael cyeradwyaeth y Cyngor i mynd ymlaen gyda thrafodaethau pellach â Phrisiwr Rhanbarthol. Er mwyn cadw at dermau'r brydles, bydd rhaid i’r Clwb ddangos i’r Cyngor ei fod yn gweithredu mewn ffordd drefnus, a hefyd y bydd yn gallu codi’r arian angenrheidiol i dalu’r brydles bob blwyddyn.
Ar hyn o bryd, byddai’r Clwb yn cael gwaith talu cost y brydles ynghyd â chostau eraill. Mae codi arian a chreu incwm yn eithriadol o bwysig a bydd rhaid i ni gynyddu hyn. Mae’n annhebygol y bydd y Clwb yn gallu cael cymorth grant i gwrdd â chostau rhedeg sylfaenol (e.e. talu’r brydles, costau gwres, golau etc)
Sut allwn ni wneud yn sicr bod y Clwb yn cael y math o stadiwm yr hoffai ei gael?
Gan weithio gyda Chyngor Dinas Bangor a'r datblygwyr, rydym yn gofyn bod y Clwb Pêl-droed yn gallu gwneud sylwadau a dylanwadu ar y cynlluniau.
Beth alla’i wneud i helpu?
Oes gynnoch chi £500,000? Nac oes?
Mae’n hollbwysig bod y Clwb yn cael ei redeg mewn ffordd drefnus a chyfrifol, ac mae pob ffordd i ddod ag arian newydd i’r Clwb yn cael eu harchwilio. Gallwch chi helpu drwy ymuno a Chymdeithas Cefnogwyr y Clwb (gweler y ddolen ar y wefan yma), neu os oes gennych arbenigedd i gynnig, cysylltwch â'r Clwb.
Beth na ddylwn i mo’i wneud?
Peidiwch â threfnu protestiadau na phwyso ar gynghorwyr – rydym yn gwneud ein gorau drwy weithio drwy Gyngor Dinas Bangor, sef ein landlordiaid wedi’r cyfan.
Beth sy’n digwydd os oes gen i fwy o gwestiynau neu sylwadau?
Anfonwch nhw i’r Clwb, yn y cyfeiriad arferol. Bydd unrhyw ddatblygiadau mawr yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.
|