SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH
Mae Academi CPD Dinas Bangor yn croesawu chwaraewyr ifanc addawol ac yn cynnwys timau Dan 12 hyd at Dan 19 ac yn gweithredu ar ganllawiau UEFA a FIFA.
Mae Academi CPD Dinas Bangor wedi uno efo Academi Clwb Rygbi Sgarlets Llanelli a Choleg Menai i ffurfio Canolfan Ragoriaeth Academi Menai sy’n cynnig cefnogaeth i chwaraewyr ifanc mwyaf dawnus y fro, a sydd yn cystadlu yng Nghynghrair Pêl Droed Colegau Lloegr. Cadwch eich llygad ar gemau a chanlyniadau Academi Menai yma.
Cafwyd cyfle i brofi llwyddiant polisi ieuenctid CPD Dinas Bangor yn Nhwrnament Rhynglwadol Ian Rush 2004 a gynhaliwyd yn Aberystwyth gan ddenu timau o bob rhan o’r byd. Tîm dan 19 Bangor oedd pencampwyr y Twrnament, gyda’r tîm dan 11 yn cyrraedd y ffeinal yn eu hadran nhw. Daeth y timau dan 12 a dan 10 yn drydydd yn eu cystadlaethau nhw.
Mae'r Clwb hefyd yn cynnal ysgolion pêl-droed yn ystod tyhorau a gwyliau'r ysgol, lle mae plant ysgol lleol yn cael y cyfle i ddisgu ac i ddatblygu eu sgiliau dan ofal profiadol hyfforddwyr gyda chymhwysterau UEFA. Cynhelir seiynau ym Maes Glas, Ffordd Ffriddoedd, Bangor ar nosweithiau Iau rhwng 4 - 5 pm i'r sawl rhwng 5 - 8 oed, ac ar nosweithiau Fawrth rhwng 4 - 5 i'r sawl rhwng 9 - 14 oed. Cysylltwch a Swyddog Cymunedol y Clwb, Lee Dixon ar 01248 811508 am ychwaneg o wybodaeth, neu e-bostiwch info@bangorcityfc.com.
Am fwy o wybodaeth am Academi CPD Dinas Bangor a’r gwasanaethau eraill sydd ar gael i bobl ifanc sy’n awyddus i ddysgu mwy am y gêm, yna cysylltwch â Mel Jones, CPD Dinas Bangor, d/o 12 Lon y Deri, Eithinog, Bangor LL59 2LS. Ffôn (01248) 353397; ffôn symudol 07748 653917, e-bost info@bangorcityfc.com
|