Cartref
Croeso i'n Clwb
Rheolau'r Stadiwm
Prisiau
Tocynnau Tymor
Newyddion am ein stadiwm
Sut i gael hyd i ni
Hanes ein Clwb
Gemau/canlyniadau
Carfan tîm cyntaf
Oriel lluniau
Rhaglen
Academi/ieuenctid
Cym. Cefnogwyr
Noddi a hysbysebu
Siop y Clwb
TÔT wythnosol
Clwb 200
Dolenni
Cysylltwch â'r Clwb


 

SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH

Ffurfiwyd Clwb Pêl Droed Dinas Bangor yn 1876, a threuliodd y clwb y rhan fwyaf o’r blynyddoedd cynnar yn cystadlu mewn cystadleuaethau cwpan yn unig. Bangor oedd Aelodau Sefydlu Cynghrair Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru yn 1893, a chwasant eu coroni’n Bencampwyr yn 1896. Yn 1898 ymunasant â’r Football Combination League ac yn 1910 ymunasant â Chyngrair Gogledd Cymru.

Yn ystod 30au a 40au’r ugeinfed ganrif, cystadlodd Dinas Bangor yn y Lancashire Combination League, gan ennill Cwpan y Gynghrair yn 1949. Yn 1950, ymunasant â Chyngrair Sir Gaer, a dod yn ail ddwywaith, yn 1954 ac yn 1959. Yn 1968 daeth Dinas Bangor yn aelodau sefydlu Prif Gynghrair y Gogledd (Northern Premier League). Enillasant Gwpan y Gynghrair yn y tymor cyntaf oll ac ar ôl perfformiadau da yn gyson cafodd y Clwb ei wahodd i fod yn aelodau sefydlu’r Alliance Premier League (Nationwide Conference erbyn hyn) yn 1979.

Ar ôl dau gyfnod yn yr Alliance Premier League cafodd Clwb Dinas Bangor ei anfon yn ôl i’r NPL yn 1984, yr un tymor y cawsant eu trechu o 1-2 gan Norwich Victoria pan wnaethant ailchwarae Rownd Derfynol yr F.A. Trophy yn Stoke. Y gêm gyfartal 1-1 yn Wembley oedd y tro cyntaf i glwb o Gymru chwarae yno am bron 60 o flynyddoedd.

Ar ôl ennill Cwpan Cymru yn 1962 enillodd Dinas Bangor le yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop a wynebu Napoli. Cafodd buddugoliaeth 2-0 gartref ei diddymu pan wnaethon nhw golli 1-3 yn yr Eidal. Oherwydd nad oedd rheol “golau oddicartref” yr adeg honno, roedd angen ailchwarae ac ennillodd yr Eidaliaid y gêm o 2-1 yng nghae’r Arsenal yn Highbury.

Yn 1984, a’r unig glwb o Gymru yng Nghwpan Cymru, aeth Dinas Bangor ymlaen unwaith eto i ennill lle yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Curasant Fredrickstad o Norwy ar y rheol “golau oddicartref” yn y Rownd Gyntaf, ac Athletico Madrid oedd y gwrthwynebwyr yn yr Ail Rownd . Ar ôl colli 0-2 gartref yn y cymal cyntaf roedd pawb yn disgwyl i Fangor golli’n drwm yn erbyn y Sbaenwyr yn yr ail gymal. Drysodd Bangor yr arbenigwyr drwy ddal ochr Madrid i sgôr o 0-1.

Yn 1992, daeth Clwb Bangor unwaith eto’n aelodau sefydlu cynghrair, Cynghrair Cymru y tro yma, a daethant yn 5ed yn y tymor cyntaf. Penodwyd cyn- gôlgeidwad Tranmere Rovers, Nigel Adkins, yn Rheolwr yn ystod tymor ‘93/’94 ac arweiniodd ef y Clwb i‘r Bencampwriaeth. Enillodd hyn le yng Nghwpan UEFA  i Fangor a chollasant 4-1 rhwng y ddwy gê i IA Arkranes o Wlad yr Iâ.

Enillasant y Gynghrair unwaith eto y tymor wedyn a’u gwrthwynebwyr yng Nghwpan UEFA y tro yma oedd Widzew Lodz o Wlad Pwyl, a chollasant iddynt o 0-5 dros y ddau gymal.

Roedd 1995/96 yn dymor siomedig gan na orffennodd Dinas Bangor ond yn 4ydd yn y Gynghrair a disgynnodd rhifau cefnogwyr o draean o’u cymharu â’r tymor blaenorol.

Ar ôl nifer o newidiadau i’r Rheolwyr, cymerodd Graeme Sharp, cyn-chwaraewr Everton a’r Alban yr awennau ar gyfer tymor 1997/98 gan obeithio cystadlu â Chwlb Tref y Barri am y Gynghrair. Nid ddaeth y sialens i ddim byd mewn gwirionedd, ond curodd Dinas Bangor Connah’s Quay Nomads ar giciau o’r smotyn yn Rownd Derfynol Cwpan Cymru, a hynny chwe diwrnod yn unig ar ôl colli ar ôl ciciau o’r smotyn i’r Barri yn Rownd Derfynol Cwpan y Gynghrair, y trydydd tro i Ddinas Bangor golli Rownd Derfynol yn y gystadleuaeth honno. Wythnos wedi’r llwyddiant yng Nghwpan Cymru ymwahanodd Graeme Sharpe a Dinas Bangor.

Penodwyd John King yn Rheolwr yn ystod haf 1998 ac roedd wrth y llyw pan wynebodd Bangor FC Haka o’r Ffindir yn y gystadleuaeth olaf erioed yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Methodd y Clwb ag ennill, gan golli 0-3 dros y ddau gymal. Erbyn canol mis Medi, roedd King wedi mynd a chymerodd y gôl-geidwad Lee Williams drosodd. Gorfennodd Dinas Bangor y tymor yn 11eg, eu safle isaf erioed yng Nghynghrair Cymru.

Roedd newid ar y gweill unwaith eto. Yn ystod tymor cau 1999-2000, cafodd Meirion Appleton o Aberystwyth swydd y rheolwr a phenodwyd cyn-chwaraewr Cymru, Terry Boyle, yn gynorthwy-ydd iddo. Gorffennodd Dinas Bangor y tymor yn ardderchog, gan ennill Cwpan Cymru ar y Cae Ras i ennill lle yng Nghwpan UEFA. Roedd Bangor yn anffodus i gael eu tynnu yn erbyn arweinwyr Cynghrair Sweden, Halmstads a ddangosodd eu safon drwy guro Dinas Bangor dros ddau gymal.
Gwnaeth ymadawiad Meirion Appleton, a phenodi’r chwaraewr rhyngwladol o Loegr, Peter Davenport yn ystod Haf 2001 y byd o newid i ffawd y clwb. Y tymor wedyn, dan arweinyddiaeth Davenport, aeth Bangor am y bencampwriaeth a chyrhaeddodd y Clwb rownd derfynol Cwpan Cymru.

Cychwynnodd y tîm dymor 2002/3 drwy golli o drwch blewyn dros ddau gymal yn erbyn FK Sartid o Iwgoslafia — ar ôl ennill y cymal cyntaf — a pharatodd hyn y ffordd am ymgyrch addawol arall lle y gorffennodd Dinas Bangor yn drydydd, gan ennill lle yn Ewrop unwaith eto lle y cwrddon nhw â FC Gloria Bistrita o Rwmania yng Nghwpan Inter Toto. Cawsant eu curo’n drwm dros y ddau gymal yn y frwydr honno, ac ar ôl nifer fawr o anafiadau yn ystod y tymor gorffennodd Bangor yn chweched ym Mhrif Gynghrair Cymru yn 2003/4. 

Daeth perfformiadau well yn 2004/5 y trydydd safle yn Uwch-Gynghrair Cymru i ni, gyda'r addewid eto o gemau yng nghystadleuthau Ewrop i ddod. Y tro yma, mae'n debyg y byddwn yn chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr o Latvia yng Nghwpan Intertoto. Oedd ein perfformiadau yn Cwpan "Cenedlaethol" CPDC yn nodedig y tymor yma, wrth ini colli'n anlwcus yn erbyn Wrecsam o'r Gynghrair Seisnig yn rownd gyn-derfynol y gydstadleuaeth - roeddwn eisoes wedi curo Dinas Caerdydd yn y rownd blaenorol. Oddi ar y cae, parahau bydd trafodaethau rhwng landlordiaid a datblygwyr er mwyn darganfod cartref newydd i'r Clwb, oddi ar y stadiwm hanesyddol ar Ffordd Farrar - gyda safle Nantporth, y tu allan i'r dinas yn cael ei clustnodi.

(Yn gywir i 6 Mai 2005)

ANRHYDEDDAU

Enillwyr Cwpan Cymru:
1888-89, 1895-96, 1961-62, 1997-98, 1999-2000                

Pencampwyr Cynghrair Cymru:
1993-94, 1994-95                    

Rownd terfynol Cwpan Cynghrair Cymru:
1993-94, 1996-97, 1997-98, 1999-00, 2002-03

Pencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru:
1895-96, 1899-1900, 1903-04, 1904-05, 1905-06, 1907-08, 1918-19

Ennillwyr Cwpan Arfordir y Gogledd Cymru:
1926-27, 1935-36, 1936-37, 1937-38, 1946-47, 1951-52, 1957-58,
1964-65, 1967-68, 1992-93, 1998-99, 2004-05.

Cystadleuwyr yng Nghwpan Ennilwyr Cwpannau Ewropeaidd:
1962-63           

Cystadleuwyr yng Ngwpan UEFA:
1994-95, 1995-96, 1998-99, 2000-01, 2002-03             

Cystadleuwyr yng Ngwpan Intertoto:
2003, 2005


 

 



Rhaglen o gem enwog Bangor yn erbyn Napoli, chwaraewyd yn Highbury 1962. Llun: CPDDB

 



Ffeinal Tlws CB Lloegr: Bangor yn erbyn Northwich, 1984

 




© 2004 Bangor City F.C.