SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH
Rydym yn chwarae ym Mangor, Gogledd-orllewin Cymru (nid Bangor, Gogledd Iwerddon, na Bangor Is-coed, ger Wrecsam. Na Bangor, Maine chwaith!). Mae ein Bangor ni ar ymyl y Fenai wrth i’r A5 ei chroesi i Ynys Môn ac mae tua 50 milltir i’r gorllewin o Gaer.
Cliciwch yma i weld map o strydoedd Bangor, gyda Ffordd Farrar, safle ein staiwm, wedi'i amlygu gyda saeth.
Teithio ar y trên: Mae gan Fangor brif orsaf sydd tua tri chan llath o stadiwm Heol Farrar. Mae cysylltiadau aml i’r brif orsafoedd i gyd. Pan gyrhaeddwch chi orsaf Bangor, ewch yn syth ar draws y ffordd wrth y goleuadau traffig. Cerddwch am 100 llath, trowch i’r dde i Heol Farrar – mae’r cae ar y chwith ar eich union. I gynllunio’ch taith ar y trên i Fangor, cliciwch yma.
Teithio mewn car: Os ydych chi’n dod o Gaer (o’r A55) neu Fetws y Coed (o’r A5) dilynwch yr arwyddion i mewn i Fangor, cadwch i’r chwith wrth yr orsaf betrol a Iard Gychod Dickie’s ar eich ochr dde, ac ewch heibio i Bwll Nofio’r Ddinas ar eich ochr chwith. Tua milltir wedi hynny – a’r Orsaf Reilffordd a’r Goleuadau Traffig 100 llath yn syth o’ch blaenau – trowch i’r chwith i mewn i Heol Farrar (heol un ffordd). Mae’r cae yn syth o’ch blaenau ar y chwith, er ei fod wedi ei guddio o’r golwg i raddau gan dai.
Os ydych chi’n dod o Gaernarfon a’r gorllewin, dilynwch yr arwyddion am ganol y Ddinas, trowch i’r chwith (heol un ffordd) yn syth ar ôl mynd dan bont y rheilffordd, ewch i’r lôn dde hyd at oleuadau traffig yr orsaf reilffordd. Trowch i’r dde wrth y goleuadau a wedyn (ar ôl 100 llath) trowch unwaith eto i mewn i Heol Farrar. Mae’r cae yn syth o’ch blaenau ar y chwith.
Mae’r lleoedd parcio’n gyfyngedig yn Heol Farrar, ac mae’r lleoedd parcio o amgylch y cae’n gyfyngedig iawn. Ond gallwch barcio gerllaw (am £1.00) yn y maes parcio y tu ôl i’r British Hotel, ar ôl y fynedfa i’r cae ar yr ochr dde wrth i chi yrru i ben Heol Farrar.
Teithio mewn bws: Mae’r arhosfan fysiau agosaf tua dau gan llath i ffwrdd. Gofynnwch i ddod oddiar y bws wrth Orsaf Reilffordd Bangor. Mae rhestr gyflawn o amserau’r bysiau lleol yma.
Teithio ar fferi: Os ydych chi’n dod o Iwerdddon, mae Bangor yn hawdd i’w chyrraedd i deithwyr ar y fferi sy’n glanio ym mhorthladd Caergybi ar Ynys Môn. Mae Caergybi a Bangor wedi eu cysylltu gan reilffordd a heol gyflym. Mae tua 30 milltir mewn car o Gaergybi i Fangor. I gael gwybodaeth am amserau a thocynnau ar gyfer y fferi, cliciwch yma.
Teithio ar awyren: Y meysydd awyrennau agosaf i Fangor yw Manceinion, tua dwy awr o Fangor, a Lerpwl, sydd tua 90 munud o Fangor. Mae gwasanaethau rheilffordd o’r ddwy ddinas i Fangor.
Os am deithio'n annibynnol, gweler www.traveline-cymru.org.uk am y gwybodaeth mwyaf cynhwysfawr ar amserlenni a chynlluio'ch siwrnau.
|