SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH
Mae CPD Dinas Bangor yn cynnig ystod eang o gyfleoedd noddi a hysbysebu ardderchog i gyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Bangor yw un o’r clybiau mwyaf llwyddiannus ym myd pêl-droed Gymreig ac rydym yn gyson yn cystadlu am anrhydeddau Cynghrair a Chwpanau, yn ogystal â chwarae’n gyson yn Ewrop - yn Ffindir, Sweden, Iwgoslafia a Rwmania yn ddiweddar.
Fel un o ddigwyddiadau cymunedol reoliad mwyaf llwyddiannus yng Ngogledd Cymru (rydym yn cael tua 550 o gefnogwyr i bob gêm), ac yn cael nifer uchel o gefnogwyr gwrywaidd ifanc, mae’r 25 (ar gyfartaledd) o emau Cynghrair a Chwpan y chwaraeir ar Ffordd Farrar pob tymor yn cynnig cyfleoedd delfrydol i gyrff mentrus - boed yn gwmnïau preifat, sefydliadau sector cyhoeddus, neu achosion gwirfoddol - hybu eu nwyddau, gwasanaethau neu ymgyrchoedd.
Mae’n gemau a’n gweithgareddau oddi-ar y cae yn derbyn cyhoeddusrwydd yn y wasg leol, rhanbarthol a chenedlaethol, a phellach, trwy rhaglen Y Clwb Pêl-Droed ar S4C mae’r gemau yn cael eu darlledu dwywaith yr wythnos (ar nosweithiau Sadwrn a Llun) ar sianel digidol 104.
Wrthi’n gweitio tuag at bolisi hollol dwyieithog, rydym yn croesawu hysbysebwyr sydd am hyrwyddo’u hunain yn y Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith.
Mae cyfleoedd hysbysebu a noddi ar gael i bob cyllid:
Hysbysebu yn, ac o amgylch, y maes: dangosiad rheolaidd i’r 550 - 600 o gefnogwyr sydd yn mynychu gemau cartref CPD Dinas Bangor yn ogystal â chyhoeddusrwydd cenedlaethol ledled y DU trwy raglen Y Clwb Pêl-Droed S4C.
Hysbysebu yn rhaglen y gêm: Mae tua 200 o raglenni yn cael eu cynhyrchu i bob gêm ac y maent yn cael eu gweld nid yn unig gan y sawl sydd yn eu prynu ond hefyd maent yn cael eu cylchredeg rhwng cefnogwyr eraill a chasglwyr yn genedlaethol. Costau hysbysebu yn y rhaglen o £100 (+TAW) am 1/8 ran o dudalen.
Noddi’r gêm neu’r bêl: Cyhoeddusrwydd trwy’r sustem sain ar y maes, yn rhaglen y gêm ac ar dudalennau “Adroddiadau’r gemau” ar y wefan yma, lle gallwn (os yn addas) creu hypergyswllt i wefan eich sefydliad chi.
Noddi chwaraewr neu cit y chwaraewr: Hysbysebu trwy gydnabyddiaeth yn y rhaglen ac ar dudalen “Carfan Tîm Cyntaf” y wefan yma, gyda hypergyswllt o’ch enw i’ch gwefan (lle yn addas). Cost noddi chwaraewr yw £50.00 a noddi cit chwaraewr yw £40.00.
I drafod y pecyn mwyaf addas i’ch anghenion, cysylltwch â Brian Lucas ar 01492 515002, neu e-bost Brian.Lucas@btinternet.com
CEFNOGWCH Y BUSNESAU SY'N CEFNOGI CPD DINAS BANGOR -
A DYWEDWCH WRTHYNT Y CLYWSOCH AMDANYNT TRWY CPD DINAS BANGOR!
|