SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH
Mae ymuno â Chlwb 200 Dinas Bangor am ddim ond £10.00 y mis yn ffordd effeithiol ac economaidd i helpu’r Clwb – a chewch gyfle rhagorol i ennill gwobr arian bob mis, sef dros £200.00 ar hyn o bryd.
Mae’r Clwb yn codi £800.00 y mis i Ddinas Bangor nawr, ac yn ddiweddar talodd am beli hyfforddi, cyflenwadau meddygol, sanau i’r chwaraewyr a threuliau teithio – yn wir, amrediad eang o eitemau bach ond hanfodol ar gyfer rhedeg y Clwb yn rhwydd.
Mae manylion am enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y wasg leol.
Gweler uchod Les Pegler o Glwb 200 y cefnogwyr yn cyflwyno rhodd i Lywydd Clwb Bangor Gwyn Pierce Owen.
Os hoffech chi ymuno â Chlwb 200 – cysylltwch â Brian Lucas ar 01492 515002, neu swyddfa’r Clwb yn y cyfeiriad arferol
|