|
Ydych chi'n siopa yn aml ar y we yn siopau Amazon, Marks & Spencer, Comet, lastminute.com, Oddbins, Index a llawer iawn mwy?
Mae modd i chi helpu godi arian at Glwb Pêl Droed Dinas Bangor wrth i chi siopa. Wrth fynd at ein siop ni gyntaf - www.buy.at/bangorcityfc, ac yna dewis logo'r siop yr ydych am ddefnyddio, byddwch yn mynd i'r safle we arferol. Mae'r pris byddwch yn dalu yn union yr un fath, ond y gwahaniaeth mawr yw trwy fynd trwy www.buy.at/bangorcityfc, bydd CPD Dinas Bangor yn cael canran o'r cyfanswm.
Er enghraifft, wrth brynnu yn Amazon, Comet neu Index trwy www.buy.at/bangorcityfc, bydd CPD Dinas Bangor yn elwa o 3% o'r hyn fyddwch yn wario.
|
|