Cartref
Croeso i'n Clwb
Prisiau

Newyddion

Newyddion y mis yma
Archif 2004
Archif 2005
Newyddion am ein stadiwm
Sut i gael hyd i ni
Hanes ein Clwb
Gemau/canlyniadau
Carfan tîm cyntaf
Academi/ieuenctid
Cym. Cefnogwyr
Noddi a hysbysebu
Siop y Clwb
Siopa ar-lein gyda CPDB
TÔT wythnosol
Clwb 200
Dolenni
Cysylltwch â'r Clwb


 

SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH

SIOPA TRWY'R CLWB: Os wrthi'n brysur yn gwneud eich siopa tymor y gwanwyn, pam na wnewch rywfaint ohono trwy ddefnyddio’ch llygoden a’ch bysellfwrdd, yn ogystal â chefnogi’r masnachwyr lleol sydd eisoes yn hysbysebu gyda CPD Dinas Bangor. Ceir nwyddau gwych Dinas Bangor am brisiau rhesymol trwy Siop y Clwb (cliciwch y ddolen ar y chwith), neu prynwch ar-lein oddi wrth rhai o siopau mwyaf e.e. Amazon a'r Early Learning Centre - a chefnogwch Dinas Bangor ar yr un pryd. Mae 'na fargeinion penigamp hefyd i gael ar yswiriant tai a cheir, gwasanaethau cyhoeddus megis trydan a nwy, a chardiau credyd.Mae’r Clwb yn ennill comisiwn ar bob pryniant sy'n cychwyn trwy clicio ar label goch "Buy At" islaw ar y chwith.
 
TÎM IEUENCTID YN Y CWPAN: Bydd ein tîm Ieuenctid yn herio Tref Y Bala (oddi gartref) yn 5ed rownd Cwpan Ieuenctid Cymru at Ddydd Sul 6 Mawrth (CG 2.00 pm - i'w gad.). Pam na ddowch i'r Bala i gefnogi ser y dyfodol. (16 Chwefror 2005)
 
DYDDIADAU NEWYDD I'N GEMAU YN ERBYN Y TRALLWM A PORT TALBOT: Chwareir ein gêm oddi gartref ohiriedig yn erbyn Y Trallwm ar nos Fawrth 1 Mawrth (CG 7.30 pm), a'r dyddiad newydd am ein gêm gartref yn erbyn Port Talbot bydd Dydd Sul 10 Ebrill (CG 2.30pm) (16 Chwefror 2005)
 
CHWILIO AM RAGLEN HYNAFOL: Rydym wedi cael neges gan Jarrold Smith sydd yn chwilio am raglen o gêm Bangor yn erbyn Tref Grantham yn Tlws Cymdeithas Pêl Droed Lloger, rownd gyntaf, gêm ail-gyfle, chwaraewyd ar 26/1/1972. Os gall unrhyw un helpu Jarrod, cysylltwch gyda fo ar Jarrod.Smith@eon-uk.com neu 07919 478418 (14 Chewfror 2005)
 
GÊM CWPAN Y GOGLEDD: Mewn ychwanegiad hwyr i'r rhestr gemau, byddwn yn awr yn herio'n cyfeillion o Ynys Môn, CPD Llanfaiorpwll mewn gêm yng Nghwpan Arfordir Gogledd Cymru, y gêm i'w gynnal ar Ffordd Farrar nos yfory (Mawrth 15fed), CG 7.30pm. Bydd yr achlysur yn gadael i Peter Davenport rhoi cyfle i rhai o chwaraewyr sydd ar fin codi i'r tîm gyntaf, ac hefyd profi ffitrwydd rhai sydd wed bod allan o'r tîm am gyfnod, e.e. Paul Friel, ac, efallai., Chris Priest. (14 Chwefror 2005)
 
Y TÔT WYTHNOSOL: Rhifau 12 a 33. Dim enillydd wythnos yma, felly bydd jacpot wythnos nesaf yn codi at £200.00. (13 Chwefror 2005)
 
NOSON GYDA'R ENWOGION: Mae'n Cymdeithas Cefnogwyr wedi cyhoeddi noson gyda'r enwogion, i'w gynnal yn Clwb Criced Bangor at 9 Mawrth. Y gŵr gwadd bydd Llywydd y Gymdeithas (a chyn-Ddinesydd), cyflwynydd pêl-droed y BBC, Ray Stubbs - a bydd eraill yn ymddangos hefyd. Cost tucynau am y noson yw £15.00 (i gynnwyd pryd tri-cwrs, a maent ar gael gan y Gymdeithas  farrarend@dsl.pipex.com ffoniwch Nigel ar 07944694801, Michael ar 07810 433812, neu Robert ar 07787 895463, neu trwy Siop y Clwb ar ddiwrnodau gêm. (12 Chwefror 2005)
 
SÊR BANGOR YN HELPU APÊL TSUNAMI: Mae chwaraewyr Bangor Eifion Jones, Owain Jones, Ben Ogilvy, Paul Roberts a Les Davies wedi eu henwi mewn tîm UGC Gwynedd bydd yn herio tîm i gynrychioli yr Arfordir Cambrian mewn gêm i godi arian tuag at Apêl Tsunami UNICEF/Save the Children. Bydd hogiau o glybiau Porthmadog, Caernarfon, Blaenau Amateurs a Phwllheli yn cymryd rhan hefyd. Mae son hefyd efallai bydd rheolwr Bangor Peter Davenport yn chwythu'r llwch o'i sgidiau pêl-droed hefyd. Chwaraeir y gêm yn Cae Clyd, Blaenau, CG 1.30pm yfory, sef Dydd Sul, 13 Chewfror. (12 Chwefror 2005)
 
CYNGHORAU I DRAFOD: Cafwyd dau cyfarfod pwysig yn ddiweddar rywfaint o effaith ar ddatblygiad ein cae newydd ar safle Nantporth, Ffordd Caergybi. Ar Nos Lun 31 Ionawr yn Neuadd Penrhyn, cytunwyd Cyngor Dinas Bangor ar yr egwyddor o'r Clwb yn cael brydles hir ar y safle. Mae hwn yn holl bwysig er mwyn sicrhau dyfodol y Clwb yn Nantporth, a bydd hefyd yn galluogi'r Clwb ceisio am grantiau ac yn y blaen. Mae'r ffordd ar agoir felly i ni dechrau trafod y brydles gyda Phrisiwr y Rhanbarthol. Ar 2 Chwefror cytunwyd cynghorwyr Gwynedd i orhirio penderfyniad ar i ganiatau datblygiad llawn o safle gyda seddau am 3,000 yn Nantporth tan iddyn cael y cyfle i ystyried yn bellach gohbiaeth ar y cynnig, ac i ymgymeryd ar ymweliad safle. Gweler tudalen "Newyddion am ein stadiwm" ar y safle yma am ychwaneg o gefndir. (2 Chwefror 2005)
 
RHOWCH EICH HUN YN Y LLUN: Gallwch 'nawr brynu lluniau lliw llawn o’r garfan a'r chwaraewyr unigol, maint A4, o’r Clwb.  Cost pob llun yw £1.00.  Anfonwch eich archeb a’r tâl i’r cyfeiriad arferol, neu prynywch trwy www.paypal.co.uk i info@bangorcityfc.com, neu beth am bicio i mewn Siop y Clwb ar ddiwrnod ein gemau cartref. (1 Chwefror 2005)
 

 

 

 



Phil Priestley - golwr yn ail-ymuno

 



Angen posterwyr

 



Clayton Blackmore - ymysg mawrion pêl-droed Cymru

 



Cylchgrawn "Welsh Football" ar werth

 




© 2004 Bangor City F.C.