Cartref
Croeso i'n Clwb
Prisiau

Newyddion

Newyddion y mis yma
Archif 2004
Archif 2005
Newyddion am ein stadiwm
Sut i gael hyd i ni
Hanes ein Clwb
Gemau/canlyniadau
Carfan tîm cyntaf
Academi/ieuenctid
Cym. Cefnogwyr
Noddi a hysbysebu
Siop y Clwb
Siopa ar-lein gyda CPDB
TÔT wythnosol
Clwb 200
Dolenni
Cysylltwch â'r Clwb


 

NOSON GYDA'R ENWOGION: Mae'n Cymdeithas Cefnogwyr wedi cyhoeddi noson gyda'r enwogion, i'w gynnal yn Clwb Criced Bangor at 9 Mawrth. Y gŵr gwadd bydd Llywydd y Gymdeithas (a chyn-Ddinesydd), cyflwynydd pêl-droed y BBC, Ray Stubbs - a bydd eraill yn ymddangos hefyd. Cost tucynau am y noson yw £15.00 (i gynnwyd pryd tri-cwrs, a maent ar gael gan y Gymdeithas  farrarend@dsl.pipex.com neu 07944694801, neu trwy Siop y Clwb ar ddiwrnodau gêm. (30 Ionawr 2005)
 
MAE'R CYLCHGRAWN "WELSH FOOTBALL" ... yn awr i'w brynu yn reolaidd yn siop y Clwb (pris £2.00), ac mae rifyn diwedd Ionawr (rhifyn 99) ar gael yn awr. Yn ogystal â'r casgliad arferol o newyddion lleol a chenedlaethol, ac adolygiadau, mae'r cyfrol diweddaraf yma yn ffocusu ar yr ymgyrch i archeb clwb Y Fenni a Satdiwm Pen y Pownd, yn troi'r chwyddwydr ar Dref y Bwcle, trafod dyfodol y sustem "pyramid" yng Nghymru, ac yn taflu goleuni ar eisteddle gyda hanes yn ymwneud â'r rheilffordd. (28 Ionawr 2005)
 
ROWND CYN-DERFYNOL Y CWPAN CENEDLAETHOL: Yn dilyn ein buddugoliaeth enwog dros Dinas Caerdydd, byddwn gartref yn erbyn Wrecsam yn rownd cyn-derfynol y gystadleuaeth yma. TNS yn erbyn Abertawe bydd y gêm gyn-derfynol arall - y ddau gêm i'w chwarae ar ddyddiad i'w gadarnhau. (29 Ionawr 2005)
 
DAV YN CIPIO DDAU: Am y trydydd tro yr wythnos yma, mae'n rheolwr Peter Davenport wedi symud yn gyflym i gipio dau chwaraewr o safon - yr amddiffynnwr dawnus Paul O'Neil (sydd yn ail ymuno gyda ni o Gretna) a'r chwaraewr canol-cae Neil Thomas, sydd wedi creu argraff trawiadol yn ddiweddar i Glwb Llanelli. Bydd hanes ein ddau chwaraewr newydd ar dudalen "Carfan Tîm Cyntaf" yn fuan. (27 Ionawr 2005)
 
PRIESTLEY YN AIL-YMUNO: Mae'r golwr Phil Priestley wedi ail-ymuno gyda ni o Stalybridge ar ôl gadael Ffordd Farrar ar ddiwedd tymor 2003 - 4. Disgwylier i Phil bod ar gael ar gyfer ein gêm yn y Cwpan Genedlaethol yn erbyn Dinas Caerdydd (23 Ionawr 2005)
 
ANGEN POSTERWYR: Os gallech helpu hysbysebu'r amseroedd gwych i'w gael ar Ffordd Farrar trwy arddangos posteri gemau o gwmpas y ddinas, neu yn eich ysgol, clwb neu gwiethle, gad i ni gwybod. Bwyddwn yn hapus i sicrhau eich fod yn derbyn cyflenwad gyson o besteri A4 mewn digon a amser cyn pob gêm. Os gallech helpu, cysylltwch â'r Clwb yn y ffordd arferol, gan adael eich manylion cyswwlt llawn. (22 Ionawr 2005)
 
DAVIES YN YMADAEL Â BANGOR: Mae'r cyn chwaraewr canol-cae Manchester United a Chymru, a chyn Chwaraewr y Flwyddyn yn UGC, Simon Davies wedi ymadael â Dinas Bangor i ymuno â Rhyl. Mae'r Clwb yn ddiolchgar i Simon am ei wasanaeth yn y gorffennol, ac yn dymuno'n dda iddo yn y dyfodol. (21 Ionawr 2005)
 
MYNEDIAD I'N GÊM YN ERBYN CAERDYDD: Trwy talu wrth y giat bydd mynediad i'n gêm hir-ddisgwyliedig yn erbyn Caerdydd yn y Cwpan Genedlaethol ar Nos Fawrth, 25 Ionawr (CG 7.30). Ni fydd tocynau ar werth vyn y gêm - felly cyrrhaeddwch yn fuan i guro'r tagfeydd. (20 Ionawr 2005)
 
YN CHWILIO AM GYN-CHWARAEWYR: Rydym wedi derbyn ymhoiliadau ynglŷn â dau chwaraewr o'r gorffennol - yr amddifynnwr Steve Hitchen, a daeth i ni o Macclesfield tymor neu ddau yn ôl, ac i gefnogwyr hyn, Merv Jones, a chwaraeodd i ni ar ddiwedd y 1940au a dechrau'r 50au. GAllwch chi helpu - cysylltwch â ni yn y ffordd arferol. (16 Ionawr 2005)
 
DYDDIADAU NEWYDD AR GYFER EIN GEMAU YN ERBYN Y DRENEWYDD A PHORT TALBOT: Mae dyddiadau newydd ar gyfer ein gemau yn erbyn Y Drenewydd (oddi gartref) a Phort Talbot (gartref) wedi eu cadarnhau. Chwareeir y gemau ar Nod Fawrth 8 Chwefror, a Dydd Sul 10 Ebrill yn ôl eu trefn. (15 Ionawr 2005)
 
CLAYTON YMYSG Y MAWRION: Roedd amddiffynnwr bytholwyrdd Clayton Blackmore ymysg meistri pêl-droed Cymru a gymerodd rhan ym mhencampwriaeth y mawrion yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Ymysg yr enqogion eraill i gyryd rhan oedd Neville Southall, Mark Aizlewood a Malcolm Allen. Os nad oeddech yna i weld Clayton yn y cnawd - paid â phoeni. Bydd y bencampwriaeth yn cael ei darlledu ar BBC2W nos yfory (Gwener 14 Ionawr) am 7.00 pm. (13 Ionawr 2005)
 
ENNILLYDD CLWB 200: Ennillydd lotri clwb '200' am fis Rhagfyr 2004 yw Mrs Jones o Lanfairpwll, sydd yn bachu £220.50. Am daliad reolaidd o £10.00 y mis, mae'r Clwb 200 yn ffordd di-ffwdan o gefnogi Dinas Bangor. Cysylltwch â Brian Lucas ar 01492 515002 neu Brian.Lucas@btinternet.com am ychwaneg o fanlyion (12 Ionawr 2005)
 
GÊM Y TRALLWM WEDI EI OHIRIO: Mae'n gêm i'w chwarae yn Y Trallwm ar 8 Ionawr wedi'i ohirio am fod y cae dan dwr (8 Ionawr 2005)
 
DERBYN TALIADAU DROS Y RHYNGRWYD:  Gallwn bellach derbyn taliadau am nwyddau, nawdd ayyb dros y rhyngrwyd (yn benodol o ddefnyddiol i'n cefnogwyr tramor) trwy ddefnyddio'r sustem PayPal, sydd yn gyflym, cyfleus a diogel. Er mwyn gwneud taliad trwy gyfrwn PayPal, arwyddwch i mewn ar PayPal.com a chliciwch ar y fflag "Send Money", yn defnyddio'r cyfeiriad info@bangorcityfc.com fel cyfeiriad y derbynnydd. Unrhyw broblemau, neu gwestiynau? Anfonwch e-bost ini ar info@bangorcityfc.com. (1 Ionawr 2005)

CURWCH Y TAGFEYDD AR DDYDD SADWRN: Fel ein fod yn disgwyl torf mawr i;n gêm yn erbyn Caernarfon (CG 2.30 pm), ac am fod taffig ar y ffyrdd i mewn i Fangor yn ddrwm ar hyn o bryd, byddwch gystal â helpu'ch hunain a staff y giatiau trwy trwy gyrraedd yn fuan i'r gêm. Llawer o ddiolch. (1 Ionawr 2005) 

 




© 2004 Bangor City F.C.