Cartref
Croeso i'n Clwb
Prisiau
Newyddion
Newyddion am ein stadiwm
Sut i gael hyd i ni
Hanes ein Clwb

Gemau/canlyniadau

Gemau'r tymor yma
Adroddiadau
Gemau i ddod
Carfan tîm cyntaf
Academi/ieuenctid
Cym. Cefnogwyr
Noddi a hysbysebu
Siop y Clwb
Siopa ar-lein gyda CPDB
TÔT wythnosol
Clwb 200
Dolenni
Cysylltwch â'r Clwb


 

SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH

Sadwrn 14 Awst 2004 yn Ffordd Farrar, Bangor
Dinas Bangor 6 - 0 Llanelli. Noddwr y pel:
75point3 Independent Financial Advisors
.

Dinas Bangor:
Whitfield, Blackmore, Evans, E.Jones, Hoy, Priest (Connolly 76'), M.Jones (Parr 65'), O.Jones (Short 45'), Roberts, Mottram, Davies.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Priest 40'.
Goliau: Jones 23'.
Roberts 41'(os) 44' 74', Davies 76',  Mottram 88'.

Llanelli:
Pritchard, James (Jones 70'), Crabbe, Phillips, Bowden, Shannon, Wright, Wigg, Fahey, Aspell, Watkins. Eilyddion nas defnyddwyd: Fleming, Mahoney.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Watkins 72', Wigg 85'.

Torf: 401. Dyfarnwr: A Richards

Cawsom ddechrau arbennig i’r tymor drwy drechu’r newydd ddyfodiaid Llanelli 6-0, wedi iddynt gyrraedd yn hwyr oherwydd problemau traffig. Roedd gennym bedwar chwaraewr newydd, gan gynnwys Chris Short oedd wedi dychwelyd i’r clwb. Roeddwn 3-0 ar y blaen erbyn hanner amser oherwydd goliau gan Owain Jones a dwy gan Paul Roberts, yn cynnwys un gic o’r smotyn. Cafwyd tair arall yn yr ail hanner – Paul Roberts eto, Les Davies efo foli o ochr y blwch (ai hon fydd gôl y tymor?) a thrawiad sicr gan Frank Mottram. Chwaraeodd y wynebau newydd yn dda – Paul Whitfeld yn gadarn yn y gôl, Chris Priest yn dominyddu yn ganol cae a Morgan Jones ar y dde yn croesi’r bêl yn effeithiol yn gyson.

 

Sadwrn 21 Awst yn Ffordd Farrar, Bangor
Bangor City 4  - 2 Y Trallwm. Noddwr y pêl:
Bangor City FC 200 Club

Dinas Bangor: Whitfield, Blackmore, Evans, Hoy, E.Jones, Priest, M.Jones (Connolly 60'), O.Jones, Roberts, Mottram, Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: Short, Parr.
Cardiau Coch: Priest 64'; Cardiau Melyn: Hoy 59', Blackmore 71' Connelly 73'.
Goliau: Priest 5', O Jones 68',  Roberts 80', Mottram 89'

Tref Y Trallwm: Solly, Norman, Windsor, B.Jefferies, Jackson, Cunnah, Burgess, Rogers, R.Jefferies, Evans, Wilkinson. Eilyddion nas defnyddwyd: Davies, Bloor, Courtney, G.Roberts.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: R.Jefferies 38' Wilkinson 43'
Goliau: R Jefferies 38', 44'

Torf: 362 Dyfarnwr: M S Whitby

Mewn gêm hynod gyffrous a welodd chwe gôl, wnaethom lwyddo, efo deg dyn, i ddod yn ôl i ennill diolch i ganfed gôl Frank Mottram ar y lefel hwn. Collwyd Chris Priest wedi 64 munud – ef oedd wedi ein rhoi ni ar y blaen ond torrwyd ei goes mewn tacl efo cyn chwaraewr Bangor, Ricky Evans, a dangoswyd y cerdyn coch i Chris am y dacl! Sgoriodd un arall o gyn-chwaraewyr Bangor, Ross Jefferies, ddwywaith i roi’r ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl. Wnaethom dangos ysbryd arbennig yn yr ail hanner gyda goliau gan Owain Jones, Paul Roberts a Frank Mottram yn sicrhau ein record 100% gartref a’r dorf wrth eu bodd.

 

Sadwrn 28 Awst yn Ffordd Farrar, Bangor
Dinas Bangor 0 - 2 Porthmadog. Noddwr y pel: Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen.

Dinas Bangor: Whitfield, Blackmore, Evans, Hoy, E.Jones, S.Davies, Connolly, (M.Jones 84'), O.Jones, Roberts, Mottram (Rowlands 70'), L.Davies. Eilydd nas defnyddwyd: Parr.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: None

Porthmadog: McGuigan, J.G.Jones, Foster, Davies, Webber, Roberts, Parry, T.Williams, M.Williams, C.Owen (Reynolds 82'), Caughter. Eilyddion nas defnyddwyd: Evans, R.Owen.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Jones 89'
Goliau: Davies 44', M Williams 47'

Torf: 535 Dyfarnwr: B Lawlor

Wnaethom golli am y tro cyntaf y tymor hwn wrth i Borthmadog ein trechu yn Ffordd Farrar – buddugoliaeth prin iawn i’r ymwelwyr yn hanes gemau rhwng y ddau glwb. Er bod Simon Davies wedi dychwelyd i Fangor, ac er i Paul Roberts fynd yn agos ddwywaith – gan gynnwys taro’r bar – ac i Frank Mottram fygwth, ni wnaethom lwyddo i sgorio. Roedd Porthmadog yn drefnus ac yn gryf yn y cefn ac yn haeddu’r triphwynt.

Mawrth 31 Awst yn Ffordd Farrar, Bangor
Dinas Bangor 2 - 3 Tref Caernarfon. Noddwr y pel: Bangor Printing Services

Dinas Bangor: Whitfield, Short, Evans, Hoy, E.Jones (Connelly 83'), S.Davies (Dogan 75'), M.Jones, O.Jones, Roberts, Mottram, Parr (L.Davies 60').
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: E.Jones 18' S.Davies 27' Short 57' Roberts 73'
Goals: Roberts 4', O Jones 80'

Tref Caernarfon: Walsh, Evans, Roberts, Hogg, Brandreth, Hobson, Peters, Jones, Quirke, (L.Jones 77'), Thomas (M.Phillips 88'), Campbell. Eilydd nas defnyddwyd: W.Phillips
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Thomas 27', Campbell 82', Jones 83'
Goliau: Evans 35' 79', Quirke 53'

Torf: 417 Dyfarnwr: K J Parry

Er dechrau da a gorffen yn gryf yng Nghwpan Cynghrair Loosemore ni chafwyd buddugoliaeth yng nghymal cyntaf y rownd gyntaf. Er goliau gan Paul Roberts ac Owain Jones lwyddodd Caernarfon i sgorio tair a sicrhau’r fantais ar gyfer yr ail gymal – buddugoliaeth prin iawn i Gaernarfon. Bydd yr ail gymal ar Yr Oval ar nos Fawrth 14 Medi.

 

Sadwrn 4 Medi 2004 ym Maes Chwaraeon Lido Afan
Lido Afan 2 - 3 Dinas Bangor

Lido Afan: Thomas, Shrimpton, Reid (Walters 70'), P.Evans, C.Evans, Rickard, McCreesh, Piper (Pridham 79'), Bartley, O'Leary (C.Williams 85'), Reynolds. Eilyddion nas defnyddwyd: Martin, Lavis
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: P.Evans 68'
Goliau: Reynolds 12'; Bartley 15'

Dinas Bangor: Whitfield, Blackmore, Evans (Dogan 51'), Hoy, E.Jones, S.Davies, Connolly, O.Jones, Roberts, Mottram, Short. Eilyddion nas defnyddwyd: Griffiths, Parr
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Blackmore 85'
Goliau: Mottram 10', 31', O Jones 34'

Torf: 175. Dyfarnwr: R J Ellingham

Wedi colli dwy gêm yn olynol cafwyd llwyddiant arbennig yma a hynny oddi gartref. Oherwydd trafferthion traffig yn y canolbarth roedd y gic gyntaf yn hwyr a chafwyd gôl bron yn syth drwy Frank Mottram. Gyda’r chwarae yn mynd o un pen o’r cae i’r llall, y blaenwyr oedd â’r fantais. Gydag ail gôl gan Frank Mottram a pheniad anhygoel gan Owain Jones, roeddwn ar y blaen ar yr egwyl. Llwyddwyd i gadw’r fantais wrth i’r amddiffyn weithio’n galed yn yr ail hanner, hanner distaw iawn o gymharu â’r gyntaf.

 

Gwener 10 Medi 2004 yn Stadiwm Glannau'r Dyfrdwy
Crwydiaid Cei Connah 3 - 4 Dinas Bangor

Crwydiaid Cei Connah: L.Williams, Holmes, Tuft (Griffiths 66'), Hutchinson (Rain 64'), Horan, Jellicoe, C.Williams, Mutton, D.Williams, Kenworthy, Owen. Eilyddion nas defnyddwyd: Cooke, Spray
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Jellicoe 52', Kenworthy 86'
Goliau: Darren Williams 4' Stuart Rain 72', Tommy Mutton 74'

Dinas Bangor: Whitfield, Blackmore, Short, Hoy, E.Jones (L.Davies 62'), Baker, Connolly, O.Jones, Roberts, Mottram,S.Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: M.Jones, Owen
Cardiau Coch: Roberts 89', Cardiau Melyn: S.Davies 16', Roberts 20'
Goliau: Roberts 22'(p) 35', Horan 49'(og), Mottram 87'

Torf: 260 Dyfarnwr: A Richards

Yn sicr, Bangor yw'r tîm i ddilyn os ydych am weld goliau - ond nid os ydych yn berson nerfus! Roddodd dechreuad sigledig fantais gynnar i'r tîm cartref, ond daethom yn ôl yn gryf bellach ymlaen yn yr hanner gyntaf gyda dwy gôl gan Paul Roberts (un o'r smotyn). Wnaethom ychwanegu at ein mantais yn gynnar yn yr ail gyfnod pryd orfodwyd pwysau di-baid i amddiffynwyr y Crwydriaid taro'r bêl trwy ei rhwyd ei hun. Tarodd y tîm cartref yn ôl dwywaith ar ôl tua 70' ond roddodd cyfle hwyr y siawns i Frank Mottram dangos ei phrofiad i orffen yn ddigynnwrf ac i gyflawni ein hail fuddugoliaeth oddi gartref o'r wythnos.

 

Mawrth 14 Medi 2004 ar Y Ofal, Caernarfon
Tref Caernarfon 4 - 3 Dinas Bangor. Cwpan Cyngrhair Loosemore's. Caernarfon yn ennill 7 - 5 dros y ddwy gymal.

Tref Caernarfon: Walsh, Phillips, Roberts, Chalk, Brandreth, Hogg, Peters (Jones 82'), Williams, Owen (Quirke 60'), Evans, Campbell. Eilydd nas defnyddwyd: Hobson.
Coardia coch: Dim
; Cardiau Melyn:  Campbell 2' Brandreth 47'  Phillips 55'  Williams 66'
Goliau: 
Evans 28' 36' 44', Brandreth 11'

Dinas Bangor: Whitfield, Connolly, Evans, Hoy (Parr 45'), Short (Owen 84'), Baker, S.Davies (M.Jones 45'), O.Jones, Blackmore, Mottram, L.Davies.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Baker 82'
Goliau: L Davies 56',
Mottram 67' 74'

Torf:  352   Dyfarnwr: KL Parry

Wedi bod yn llwyddiannus mewn gemau gyda llwythi o goliau yn ddiweddar, cawsom ein trechu'r tro yma mewn brwydr gyda saith gol - ac felly disgyn allan o Gwpan Cynghrair Loosemore's yn y rownd gyntaf eleni. Diolchodd Caernarfon i Mark Evans - amddiffynnwr fel arfer - am dair gôl allan o'r pedwar sgoriodd Y Dre' yn yr hanner cyntaf. Er i ni frwydro yn ôl yn gryf yn yr ail gyfnod gyda goliau o Les Davies a ddwy gan Frank Mottram, roedd yr anfantais o'r hanner cyntaf a'r gêm gyntaf yn ormod inni oresgyn.

 

Sadwrn 19 Medi 2004 ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 2 - 3 Y Drenewydd. Noddwr y pêl: Newey and Eyre Ltd

Dinas Bangor: Whitfield, Blackmore, Evans, Hoy, S.Davies, Baker, Connolly, O.Jones, Roberts, Mottram, L.Davies (M.Jones 75'). Eilyddion nas defnyddwyd: Short, Parr
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: dim
Goaliau: Simon Davies 22'  Paul Roberts 41'

Y Drenewydd: Edwards, Brown, Williams, Giles, Allen, Moon, Futcher, Hughes, Field, Webb, Desormeaux. Eilyddion nas defnyddwyd: Harris, Berridge, Warwick.
Cardiau coch: dim; Cardiau melyn:
Williams 30'
Goliau: Daniel Field 17' 51'  Andrew Webb 55'

Torf 438: Dyfarnwr: P Thomas

Perfformiad siomedig yn golygu ein bod yn colli cartref yn erbyn ein hymwelwyr o'r Canolbarth. Wnaethom ymateb yn fuan i gol cynnar gan Y Drenewydd trwy ergyd gan Simon Davies, a pan sgoriodd Paul Roberts o groesiad campus gan Les Davies i roi mantais 2 - 1 i ni ar yr egwyl, roedd yn edrych fod y gêm yna i ni ei ennill. Ond wrthododd Y Drenewydd i roi'r gorau i'r achos a daeth dau gol yn yr ail hanner buddugoliaeth iddynt, a'n trydydd colled gartref i ni yn olynol.

 

Gwener, 24 Medi 2004 ym Mhlas Kynaston, Cefn Mawr
NEWI Derwyddon Cefn 0 - 4 Dinas Bangor

NEWI Derwyddon Cefn: Mackin, Parry, Morgan, Rowlands, Salmon, Irons, McDonnell (Edgar 45'), Stacey, Williams, Thompson (McLean 62'), Shannon (Main 62'). Eilydd nas defnyddwyd: Cooper.
Cardiau coch: Morgan 45'; Cardiau melyn: Rowlands 74'

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Evans, E.Jones, Friel (Short 71'), Baker, Connolly, O.Jones (M.Jones 51'), Roberts, Mottram (L.Davies 6'), S.Davies.
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: Friel 45' E.Jones 52'
Goliau: O Jones 13', Roberts 23', 73', Blackmore 68'

Torf: 272; Dyfarnwr: A Richards

Penderfynodd ein hyfforddwr Peter Davenport i newid cynnwys y tîm mewn ymateb i'n rhediad siomedig - yn cyflwyno gôl-geidwad newydd, yn dod ac Eifion Jones yn ôl i ganol yr amddiffyn ac yn croesawu'r myfyriwr Paul Friel yn ôl i ganol y cae. Chwaraeodd y tri rhan llawn mewn perfformiad oedd yn wellhad sylweddol gan y tîm y rhoddodd nesaf i ddim cyfle i'r Derwyddon hyd yn oed pan oedd ganddynt un ar ddeg o ddynion. Anafwyd Owain Jones a Frank Mottram yn yr hanner cyntaf, ond wedi i'r tîm cartref colli un o'i nifer ychydig cyn yr egwyl, roedd syndod i neb ein bod medru negyddu cyfleoedd y Derwyddon yn yr ail hanner, yn ogystal â dyblu'n fantais trwy goliau gan Paul Roberts a Clayton Blackmore.

 

Sadwrn 2 Hydref 2004 ar Gae Sling, Penmaenmawr
Penmaenmawr Phoenix 0 - 2 Dinas Bangor (2il rownd Cwpan Cymru)

Penmaenmawr Phoenix: Tharme, I Williams, M Roberts, J Griffiths, S Jones, Tidswell, Crowl, B Jones, Peter Williams, S Roberts, Rowlands. Eilyddion: Lye, Picton, Paul Williams

Dinas Bangor: Acton, M Jones (Parr), G Evans, Baker, E Jones, Friel, Connolly, Blackmore, P Roberts, S Davies (Short), L Davies (Hoy)
Goliau: Blackmore 12', Connolly 70'

Torf: - ; Dyfarnwr: A Harms

Roedd rhaid inni frwydro yn erbyn gwrthwynebwyr penderfynol, anlwc gydag ergydion, a thywydd gwyntog, ond wnaethom dal dangos digon o gymeriad i sicrhau nad oedd ail-rediad o'r anffawd llynedd lle wnaethom golli yn erbyn gwrthwynebwyr o lefel is yn y gystadleuaeth yma. Roedd defnydd celfydd gan Clayton Blackmore o'r tywydd yn ddigon i roi mantais gynnar i ni pan sgoriodd o bell allan, ac roedd ergyd gadarn Mark Connolly o frwydr yn y cwrt cosbi yn ddigon i orffen bygythiad Pen.

 

Mawrth 5 Hydref ym Mharc Latham, Y Drenewydd
Y Drenewydd 0 - 4 Dinas Bangor (Cwpan Cenedlaethol)

Y Drenewydd: [tîm i'w gadarnhau]

Dinas Bangor: Acton, Blackmore (Hoy), E Jones (Short), Baker, Scott, Connolly, O Jones, Friel, S Davies, Roberts, Gray (L Davies). Eilyddion nas defnyddwyd: M Jones, Whitfield
Goliau: S Davies, O Jones, Friel, Roberts

Manylion y dorf a'r dyfarnwr i'w gadarnhau

Roedd perfformiad arbennig yn yr hanner cyntaf yn golygu ein bod mwy na heb sicrhau'r gêm yma erbyn yr egwyl. Cyplyswyd ein chwaraewyr canol cae (Mark Connolly, Owain Jones, Paul Friel a Simon Davies) ymosodedd gyda chreadigaeth i osod sylfaen i un o'n perfformiadau gorau'r tymor yma. Chwaraeodd ein newydd-ddyfodiaid Kevin Scott (cefnwr chwith) a Tony Gray (yn y blaen) eu rhan yn llawn hefyd. Roedd goliau yn yr hanner cyntaf gan Simon Davies, Owain Jones a Paul Friel (yn gorffen symudiad dechreuodd o gic cornel Y Drenewydd) yn ddigon i sicrhau'r gêm erbyn yr egwyl, ac er i ni ymlacio ychydig yn yr ail hanner, gyda gôl gan Paul Roberts yr unig ychwanegiad i'r sgôr, ni roddodd ein hamddiffyniad cadarn cyfle i'r tîm cartref taro 'nôl.

 

Sul, 10 Hydref, 2004 ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 1 - 1 Hwlffordd. Noddwr y gêm: Storm FM

Dinas Bangor: Acton, Short, Evans, E.Jones, Baker, Friel (L Davies 87'), Connolly, O.Jones, Roberts, Gray, S.Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: M.Jones, Hoy
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: Friel 74', Connolly 86'
Goliau: Roberts 47'

Hwlffordd: Kendall, Brace, Waters (Algieri 54'), Rossiter, Thomas, Jones, Palmer, Hicks, Adams, Loss, Ryan. Eilyddion nas defnyddwyd: Ralph, Lewis.
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: Jones 70'
Goliau: Ryan 20'

Torf: 536; Dyfarnwr: S C Hames

Y gêm ddiarhebol hynny o ddwy hanner, fel y cafodd y naill dîm a'r llall cyfleoedd i ennill y gystadleuaeth, ond yn y pen draw gorfod rhannu'r pwyntiau - canlyniad teg, mae'n rhaid. Roddodd tîm trefnus Hwlffordd nesaf i ddim cyfle i ni dangos ein doniau yn yr hanner cyntaf, a chymerodd yr ymwelwyr fantais lawn o'u meddiant i fynd ar y blaen trwy ymdrech wedi'i lobio gan Darren Ryan ar ôl 20 munud. Stori wahanol oedd hi yn yr ail hanner beth bynnag, wrth i ni ymateb yn syth trwy ergyd isel ein capten Paul Roberts, ac yn pwyso yn gyson trwy'r hanner ond i ddarganfod gôl-geidwad yr ymwelwyr, Lee Kendall ar ei orau. Daeth Hwlffordd yn ôl yn gryf yn y munudau olaf, ond parhaodd ein hamddiffynwyr eu perfformiadau da diweddar i rwystro'r Orllewinwyr.

 

Sadwrn 16 Hydref 2004 yn Stadiwm Cwmbran
Tref Cwmbran 0 - 3 Dinas Bangor

Tref Cwmbran: Wesson, Coughlin, K.James, Perry, Welsh, Fowler, Phillips, Thomas, Mohamed (Hanbury 51'), Diamond (Plant 51'), Hurlin. Eilydd nas defnyddwyd: Green
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: Hurlin 20', James 45'

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Evans, E.Jones, Baker, Friel, Connolly, O.Jones, Roberts (L.Davies 88'), Gray (Hoy 88'), S.Davies. Eilydd nas defnyddwyd: Short.
Cardiau coch: Dim; Cardiau Melyn: Connolly 45', Blackmore 64'
Goliau: Gray 8', Roberts 77',  Connolly 90'

Torf: 151; Dyfarnwr: K Morgan

Perfformiad penigamp eto yn erbyn gwrthwynebwyr sydd wedi achosi trafferth inni yn y gorffennol. Sgoriodd ein blaenwr ifanc Tony Gray ei gôl gyntaf inni yn gynnar ac er i Gwmbrân ymdrechu (yn ofer) trwy weddill yr hanner gyntaf a dechrau’r ail hanner, parhaodd ein hamddiffyniad gyda’u perfformiadau arbennig mewn gemau diweddar (ond wedi ildio un gôl yn y pum gem ddiwethaf). I’r gwrthwyneb, roddodd eiliadau sigledig yn amddiffyn y tîm gartref y cyfle I Paul Roberts (oedd eisoes wedi wfftio anaf i’w troed i chwarae heddiw)  -ond ar ei orau ar hyn o bryd - I ddyblu ein mantais gyda thhua bymtheg munud i fynd. Seliodd ein chwaraewr canol cae ifanc Mark Connolly y thripwynt holl bwysig gydag ymdrech ar y post pella’ yn union ar y chwiban olaf, yn hawlio’i gôl gyntaf yn y gynghrair yn y tymor yma.

 

Sadwrn 30 Hydref 2004 ar Y Treflan, Llansantffraid
Total Network Solutions 1 - 1 Dinas Bangor

Total Network Solutions: Doherty, Naylor (Toner 70'), King, Aggrey, Evans, Holmes, Wood, Lloyd-Williams, Wilde (Hogan 64'), Beck, Leah. Eilydd nas defnyddwyd: Taylor.
Cardiau coch: Dim
; Cardiau melyn:  King 76'
Gôl: Lloyd-Williams 33'

Dinas Bangor:  Acton, Blackmore, Scott, Hoy, Baker, L.Davies (Mottram 74'), Connolly, O.Jones, Roberts, Gray, S.Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: Short, M.Jones
Cardiau coch: Dim; Cardia melyn: Blackmore 90'
Gôl: Gray 27'

Torf:  514   Dyfarnwr:  C Murray (Cym. Pêl Droed Yr Alban)

Ni fydd llawer o dimau yn ennill pwyntiau o dîm Y Treflan, felly gallwn fod yn fwy na fodlon gyda phwynt o’r gêm gyfartal yma. Eto, gyda’r ddau dîm yn gyfartal ar yr hanner, cafwyd cyfleoedd gan y ddau wrthwynebydd y gopïo’r triphwynt. Oedd ein tîm ni yn dangos newidiadau oherwydd absenoldeb Paul Friel ac Eifion Jones, ond serch hynny aethom ar y blaen gyda throad ac ergyd o’r tu allan i’r cwrt gan Tony Gray. Daeth TNS yn ôl yn syth gyda pheniad nodweddiadol ar y postyn agosaf gan Marc Lloyd-Williams - ac felly oedd y dorf yn edrych ymlaen at ail hanner chwilfrydig.  Ni welwyd ychwaneg o goliau yn yr ail hanner - ond aeth y mwyafrif o gyfleoedd i TNS gyda Peter Hoy yn clirio oddi ar y llinell yn arwrol, a Richard Acton yn syrthio i’w dde i arbed cic gosb Marc Lloyd-Williams oedd wedi ei rhoi gan y dyfarnwr ymweliadol Callum Murray, o’r Alban. Cafwyd cyfleoedd i Gray a’r eilydd Frank Mottram i selio buddugoliaeth i ni - ond nid felly oedd pethau i fod, ac yn y pen draw, efallai mai gêm gyfartal oedd y canlyniad tecach, gyda Bangor yr hapusach o’r ddau dîm.

 

Sul, 7 Tachwedd ym Murchfield
Dinas Powys 2 - 3 Dinas Bangor 3 (Cwpan Cymru, 3ydd rownd)

Dinas Powys: Clarke, Foate (Harries 79), Hemmens (Light 76), Piotroskswki, Drew, Bettles, Dix, Davies, Lewis (Lamb 66), Vick, Hosgood.
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: Dim

Goliau: Dix 26', Lamb 80'

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Scott, Hoy, Baker, L.Davies (Short), Connelly, O Jones, Roberts (Mottram 76), Gray, S.Davies (M.Jones 85).
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: 
Blackmore 53', Gray 66', Scott 78'
Goliau: Roberts 27', Connolly 28', Gray 59'

Torf: tua 300 (i'w gad); Dyfarnwr: R J Ellingham

Profodd y gem yma yn bell o fod yn hawdd, fel wnaeth y tim o Adran 1 Cynghrair Cymru orfodi ini brwydro'r holl ffordd cyn selio'n lle yn y 4ydd rownd, lle byddwn yn chwarae Total Network Solutions, sydd yn arwain Uwch-Gynghrair Cymru ar hyn o bryd. Sgoriodd Jaimie Dix y gol agoriadol i'r tim gartref ar ol helynt yn y cwrt cosbi, ond wnaethom taro yn ol i ddal y ar yr egwyl gyda goliau gan Paul Roberts a Mark Connolly. Peniodd Tony Gray y trydydd, o groes Simon Davies, ar ol 15 munud o'r ail hanner, ond daeth y tim cartref yn ol gyda gol gan yr eilydd Spencer Lamb, i roi 10 munud anghyffyrddus i ni cyn y chwiban olaf. Diolch i Mark Smith am fersiwn llawn o'r adroddiad yma, ymddangosodd yn gyntaf ar rhestr postio UGC.

 

Mawrth 9 Tachwedd ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 3 - 0 Crwydriaid Cei Connah (Cwpan Cenedlaethol)

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Scott, Hoy, Baker, Les Davies (R Owen), Connolly, O Jones (Short), Roberts, Friel (Garside), S Davies
Goliau O Jones 2, Connolly

Crwydriaid Cei Connah: Bryan, Holmes, Heath, Hutchinson, Horan, Jellicoe, C.Williams, Mutton, D.Williams, Kenworthy, Owen
Subs:  Terry, Rain, Griffiths, Mazzarella, Cornes

Torf: i'w gad.; Dyfarnwr: B Lawlor

Rhoddodd ddwy gôl ar ôl ychydig dros hanner awr y sylfaen gadarn i ni gwblhau buddugoliaeth yn y Cwpan Genedlaethol yn erbyn gwrthwynebwyr o Lannau’r Dyfrdwy. Roedd y cyfnod agoriadol yn gystadleuol, ond gydag ychydig iawn o gyfleoedd clir, tan i gamddealltwriaeth yn amddiffyn yr ymwelwyr roi cyfle i ni fynd ar y blaen. Cododd Paul Friel cic rydd i mewn i gwrt cosbi, a roddodd sialens ar gôl-geidwad Cei Connah y cyfle i Owain Tudur Jones pwtio'r bêl i gefn y rhwyd. Ychwanegwyd at y fantais tair munud wedyn, pan roddodd pas trwodd Paul Roberts y cyfle i rediad penderfynol Mark Connolly mynd â'r bêl rown y golwr i rwydo. Seliodd ail gôl Owain Jones y fuddugoliaeth ar ôl 62 munud. Manteisiodd Owain ar bas Les Davies o gic gornel Clayton Blackmore. Y wobr am y fuddugoliaeth drawiadol yma bydd gêm yn erbyn un o'r timau Cymreig sy'n chwarae ym mhencampwriaeth Coca-Cola - gêm i edrych ymlaen ato'n o iawn! Diolch i www.citizens-choice.co.uk ac i www.faw-premiercup.com am y gefndir i'r adroddiad yma.

 

Gwener, 19 Tachwedd ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor City 2 - 1 Y Rhyl (Uwch Gynrhair Cymru)

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Scott, Hoy, E.Jones, Friel (L.Davies 67'), Connolly, (Short 89'), O.Jones, Roberts, Gray, S.Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: M.Jones, Ogilvy
Cardiau coch: Dim; Cardiau Melyn: Hoy 57' Friel 59'
Goliau: Roberts 28', Gray 81'

Y Rhyl: Paul Smith, Brewerton, Stones, Burgess (M.Powell 57'), Edwards, Graves (McGinn 84'), Wilson, Limbert, Hunt, Peter Smith (Atherton 80'), Adamson.
Cardiau coch: Wilson 51' Limbert 57'; Cardiau melyn: Hunt 80'
Gôl: Graves 72'

Torf: 746; Dyfarnwr: B Lawlor

Wnaethom barhau gyda’n rhediad da o ganlyniadau (heb golli mewn wyth) gyda buddugoliaeth oedd yn anodd ei ennill dros y pencampwyr ar hyn o bryd, mewn gêm llawn gyffro y chwaraewyd o blaen torf sylweddol ac angerddol. Ni oedd y tîm gorau yn yr hanner gyntaf, yn mynd ar y blaen ychydig cyn hanner awr, pan beniodd Paul Roberts croesiad asgell dde Clayton Blackmore i’r rhwyd. Yn pasio’r bêl yn ddeniadol, cawson y cyfle i roi’r gêm allan o gyrraedd Y Rhyl, gydag Owain Jones yn mynd yn agos mwy nag unwaith, a Tony Gray yn fygythiad cyson yn y llinell flaen, yn dal y bêl i fyny ac yn ceisio o hyd i droi’r amddiffynnwr. Serch hynny, oedd yn amhosib anwybyddu sialens Y Rhyl yn y cyfnod yma, a bu iddynt hefyd achosi pryder yn ein hamddiffyn, yn gofyn i Richard Acton fod er ei gorau i wrthwynebu ymosodiadau, a hefyd unwaith yn sgimio’r bar. Achosodd y dyfarnwr Brian Lawlor helynt ymysg cefnogwyr Rhyl yn gynnar yn yr ail hanner, yn dangos y cerdyn coch i ddau o’u chwaraewyr, ond ysbrydolodd y digwyddiadau yma’r ymwelwyr i ymdrechion mwy byth, ac i syndod neb manteisiodd Stuart Graves ar ddiffyg canolbwyntio yn ein hamddiffyn i saethu i’r rhwyd o ochr dde'r cwrt cosbi. Bu rhaid i ni amddiffyn trwy’r rhan helaeth o’r ail hanner, yn bygwth yn achlysurol ar y toriad, ond yn un o’r ychydig o fygythiadau, ymlusgodd croesiad Paul Roberts ar draws y cwrt cosbi i roi’r cyfle i Tony Gray rhwydo’r gôl bu’n ennill y gêm.

 

Sadwrn, 27 Tachwedd 2004, yn Y Cae Hamdden
Caersws 2 - 2 Dinas Bangor

Caersws: Mulliner, Thomas, Jehu, Reynolds, Howells (Probert 81'), G.Lewis, (M.Lewis 88'), Venables, Marfell (Mitchell 45'), Evans, Jones, A.Davies.
Cardiau Coch: Dim; Crdiau Melyn: Dim
Goliau: Davies 49', Evans 59'

Dinas Bangor: Acton, Short, Scott, Hoy, Baker, Friel, Connolly, O.Jones, Roberts, Gray, S.Davies (L.Davies 71'). Eilyddion nas defnyddwyd: E.Jones, M.Jones, Ogilvie.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: S.Davies 70', Roberts 80'
Goliau: O Jones 24', G Lewis (og) 74'

Torf: 530 Dyfarnwr: R J Ellingham

Roedd y pwynt y cawsom o’r gêm letchwith yma yn un oedd yn anodd ei ennill, fel dangosodd Caersws bod eu hwyl dda a’u safle uchel yn y Gynghrair yn hollol haeddiannol. Rhannodd y ddau dîm y chwarae tan ychydig cyn yr hanner awr pan ddawnsiodd Owain Jones trwy’r amddiffyn i daro ergyd gadarn heibio llaw dde deif Mulliner. Cafodd y ddau dîm cyfleoedd i ychwanegu at y nifer o goliau cyn yr egwyl, gyda’n gôl-geidwad Richard Acton, amddifynnwyr Peter Hoy a Paul Friel, a’r postyn yn rhwystro Caersws, a Andy Mulliner yn arbed yn arbennig rhag Tony Gray ar y pen arall o’r maes. Newidiodd rheolwr Caersws Mickey Evans ei dîm dros yr egwyl, a roddodd hwn hwb sylweddol i’r Adar Gleision yn gynnar yn yr ail hanner, wrth iddynt ddod yn gyfartal, ac wedyn mynd ar y blaen - yn gyntaf trwy ergyd nerthol o bellter gan Andy Davies, ac wedyn trwy tsip medrus gan y blaenwr toreithiog Graham Evans. Parhaodd Caersws i bwyso, ond, mewn ymosodiad prin, roedd ein blaenwr Tny Gray wrth i fodd i weld ei croes-ergyd o’r dde yn cael ei gwyro i mewn i’w rhwyd ei hun gan amddiffynnwr Caersws Geraint Lewis. Gwelodd y chwarter awr olaf eiliadau nerfus i’r ddau dîm, ond wrth i’r dyfarnwr chwythu’r chwiban olaf, mae’n debyg yr oeddwn yn fwy bodlon gyda’r pwynt sengl nag oedd ein gwesteiwyr.

 

Sadwrn 4 Rhagfyr 2004, ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 5 - 0 Airbus UK (Uwch Gyngrhair Cymru)

Dinas Bangor: Acton, Blackmore (E.Jones 61'), Scott, Hoy, Baker, Friel, Connolly (Mottram 45'), O.Jones (Ogilvie 60'), Roberts, Gray, L.Davies. Eilydd nas defnyddwyd: Short
Cardiau coch: Dim; Crdiau Melyn: Dim
Goliau: Roberts 5', O Jones 10', L Davies 20' 35', Mottram 59'

Airbus UK:  Whitfield, Rigby, Hopkins, Dodd, Davies, Mutanha, Jones, Quirk (S.Andrews 55'), Williams (Hughes 63'), McIntosh, Smart. Eilyddion nas defnyddwyd: Farrell, D.Andrews
Cardiau coch: Dim; Cardiau Melyn: Dim

Torf: 377; Dyfarnwr: S Jones

Roedd gennym o hyd gormod o rym i'r newydd-ddyfodiaid I UGC, Airbus UK, er i’r ymwelwyr dod yn agos i sgorio nifer o weithiau, yn taro’r postyn ac yn gorfodi’n gôl-geidwad Richard Acton I arbed yn athletaidd. Doedd dim amheuaeth dros y canlyniad serch hynny, gydag Airbus yn edrych yn agored I;’r groes uchel - sgoriodd Paul Roberts a Les Davies (dwywaith) gyda’u pennau. I’r gwrthwyneb, sgoriodd Owain Jones a Frank Mottram gydag ergydion cadarn - Mottram yn manteisio lle oedd Airbus yn methu clirio ymdrech Kevin Scott o’r chwith. Oedd ein mantais o bedair gôl erbyn yr egwyl yn rhoi cyfle inni ymlacio ychydig yn yr ail hanner, ac i roi cyfle i Ben Ogilvy ifanc ymysg yr eilyddion - ond 17 oed, mae’n siŵr mai Ben yw un o’r ieuengaf i wisgo’r crys glas enwog.


Mawrth 7 Rhagfyr 2004, ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 4 - 2 Tref Aberystwyth. Noddwyr y bêl: Syrfewyr Adeilad Siartredig Hampson Lewis. Ffôn. 01492 536611; e-bost dilwyn@hampsonlewis.com

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Scott, Hoy, Baker, S.Davies, Connolly, O.Jones, Roberts, Gray, L.Davies (Mottram 89'). Elyddion nas defnyddwyd: Short, E.Jones, Ogilvie.
Cardia Coch: Dim; Cardia Melyn: O.Jones 70', L.Davies 88'
Goliau: Baker 32', Roberts 37' O Jones 78', Gray 89'

Tref Aberystwyth: Solly, Evans (O.Thomas 66'), Burrows, A Thomas, S.James, Lewis (Gornall 85'), Hughes, Morgan, Moore, Allen, Hinton-Jones. Eilydd nas defnyddwyd: D.James.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Dim
Goliau: A Thomas 15', Moore 83'

Torf: 465; Dyfarnwr: K J Parry

Roddodd chwarae ymosodol penigamp, rhwng rhai amseroedd nerfus achoswyd gan ddwy gôl gan yr ymwelwyr, buddugoliaeth haeddiannol yn ein gem gartref olaf cyn y Nadolig, ac fe aeth y cefnogwyr adref yn hapus ar noson o oerfel. Er mai ni oedd y tîm gorau ar y cyfan, nid oedd lle i anwybyddu peryglon Aberystwyth, ac roedd yr ymwelwyr wedi bygwth mwy nag unwaith cyn i’w amddiffynnwr tal Aneurin Thomas taro cic rydd trwy wal sigledig ein hamddiffyn. Daeth dial yn fuan serch hynny, ac ar ôl dod yn agos mwy nag unwaith, daeth Phil Baker a’r sgôr yn gyfartal trwy gol prin, yn elwa o ddryswch yng nghwrt cosbi Aber yr achoswyd gan ergyd Owain Jones. Roedd gan ein chwaraewr canol cae tal, ifanc, rhan i chwarae yn ein goliau eraill hefyd. Roddodd pass hir Owain ar draws y cae'r cyfle i Paul Roberts dangos ei sgiliau sgorio, ac yn dangos pen diffwdan a sgiliau lleoli’r bel i rwydo’n drydedd yn ystod yr ail hanner. Roddodd ergyd Paul Moore o doriad ar ôl 83 munud gobaith hwyr i’r ymwelwyr, ond pum munud wedyn, cyfunodd Owain Jones a Tony Gray yng nghwrt cosbi’r ymwelwyr i roi sgôr munud olaf arall i Gray.

 

Sadwrn 11 Rhagfyr 2004 ar Barc Waun Dew
Tref Caerfyrrdin 3 - 3 Dinas Bangor (Uwch Gyngrhair Cymru)

Tref  Caerfyrrdin: Pennock, Aherne-Evans, Lloyd, Giles, Chiverton, Smothers, Dodds (Aspell 87'), Hardy, Lima, Summers, Cotterrall. Eilyddion nas defnyddwyd: Burke, Kennedy.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Smothers 64', Giles 68'
Goliau: Summers 6', 61', Lloyd 68'

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Short (E.Jones 81'), Hoy, Baker, S.Davies, Connolly, O.Jones, Roberts, Gray (Mottram 85'), L.Davies (Friel 74'). Eilydd nas defnyddwyd: M.Jones.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Blackmore 40'
Goliau: Gray 18', 83';  L Davies 28'

Torf: 401 Referee: R J Ellingham

Dylwn efallai bod yn fodlon ennill pwynt oddi gartref yn erbyn un o'r timau yn UGC sydd mewn hwyl dda ar hyn o bryd, ond aer yn adeg, oedd yn edrych yn debygol ein bod am gipio'r triphwynt. Serch hynny, oedd cyfleoedd i dîm cyflym a phenderfynol Gaerfyrddin hawlio'r gem ym mhrif gêm y diwrnod yn y Gynghrair - felly mae'n siŵr mai gem gyfartal oedd y canlyniad tecaf. Oedd y gêm yma, gyda thair gôl ym mhob hanner yn adloniant werth chweil i'r ymwelydd, ond efallai un i’r amddiffynnwr ei anghofio. Agorodd y sgorio gan Chris Summers, sydd wedi chwarae i nifer o dimau yn y Gynghrair, wrth iddo fanteisio ar gyffyrddiad celfydd yn y cwrt cosbi, ond wnaethom frwydro yn ôl i gymryd mantais ar yr egwyl, gydag ergyd o safle agos gan Tony Gray, ac ymdrech troed chwith gan Les Davies - a oedd yn parhau a'i hwyl dda gyda goliau. Oedd ein hasgellwr chwith ifanc hefyd yn anlwcus yn yr hanner cyntaf wrth iddo weld ergyd tebyg dod yn ôl o bostyn y tîm cartref. Wedi dychryn gan ein hymosodiadau, daeth Caerfyrddin allan i’r ail hanner yn llawn nerth, yn hawlio mantais 2 - 1 gyda goliau gan Summers eto a Gary Lloyd, a gyda llai n ddeg munud i fynd, roedd yn debygol fod y tîm cartref am hawlio’r fuddugoliaeth. Mae'n siwr byddai apêl am gic cosb yn erbyn en amddiffynwr Peter Hoy wedi setlo pethau, ond unwaith eto profodd Tony Gray mai ef yw’r dyn am y gôl hwyr, yn manteisio ar smonach yn amddiffyn Caerfyrddin i daro'r bel yn gelfydd heibio gôl-geidwad Caerfyrddin Tony Pennock. Oedd amser ar ôl am gyffro pellach wrth i ergyd o bell gan Paul Roberts taro ochr postyn gol Caerfyrddin i rwystro ni rhag ennill, ond yn y pen draw, mae’n siwr fod gem gyfartal yn adlewyrchiad teg o'r chwarae.

 

18 Rhagfyr 2004 ar Barc Stebon, Llanelli
Llanelli 5 - 1 Dinas Bangor

Llanelli: G.Williams, Street, Crabbe (Turner 65'), Bird, Ashley, Hislop (Jones 80'), Thomas, Shephard, Cheesman (Guy 85'), Rose, C.Williams. Eilyddion nas defnyddwyd: Bowden, Connor.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn; Cheesman 56', Rose 69'
Goliau: Cheeseman 24' 44', C. Williams 22', Rose 75', Shepherd 90'

Dinas Bangor: Acton, Short, E.Jones, Hoy, Baker, S.Davies, Connolly, O.Jones, Roberts, Mottram, L.Davies (Friel 62'). Eilyddion nas defnyddwyd: Parr, Griffiths.
Cardiau Coch: Hoy 48'; Cardiau Melyn: Connolly 51'
Gôl: L Davies 6'

Torf: 171; Dyfarnwr: P Thomas

Gwelodd ein gêm olaf cyn y Nadolig diwedd i’n rhediad hir diguro a’n record oddi gartref nodedig yn y ffordd fwyaf dramatig a siomedig. Daeth y canlyniad annisgwyl yma wrth i ni ildio i dîm atgyfodol Llanelli oedd wedi bod yn sownd tuag at waelod y Gynghrair try gydol y tymor. Eto, dechreuodd pethau’n dda i ni wrth i les Davies parhau a’u hwyl o flaen gôl, yn penio croesiad o Mark Connolly i gefn y rhwyd ar ôl chwe munud. Ond wedi hynny, aeth pethau ar chwâl i ni, wrth i’r tîm gartref, gyda Nil Thomas yn feistr ar ganol y cae, chwarae gyda steil a hyder byddai wedi bod yn syndod i rai. Daeth symudiadau slic goliau o agos i Cheeseman (2) a Williams cyn yr egwyl, a gydag ychwaneg yn yr ail hanner gan Rose a Shepherd yn y munud olaf y canlyniad oedd ein trechiad gwaethaf mewn gêm Gynghrair yn y pedair blynedd diwethaf. Aeth pethau o ddrwg i waeth pan ddangoswyd y cerdyn coch (yn anffodus efallai) i Peter Hoy am lawio’r bêl, ond achubwyd rywfaint o gyfiawnder wrth i’n gôl-geidwad Richard Acton arbed cic o’r smotyn Neil Thomas gyda’i draed.

 

Llun 27 Rhagfyr, 2004 ar Yr Oval, Caernarfon
Tref Caernarfon 2 - 1 Dinas Bangor

Tref Caernarfon: Walsh, Phillips, Orlik (Evans 68'), Chalk, Hobson, McNulty, Peters, Williams, L Jones, Bird, Thomas. Eilyddion nas defnyddwyd: Hogg, Renshaw.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Chalk 57'; Evans 90'
Goliau: L Jones 63'(p); Mike Bird 85'

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Scott (G Williams 45'), E Jones, Baker, S Davies,
Connolly, O Jones, Roberts, Gray, L Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: Short, Mottram, M Jones.
Cardiau Coch: Baker 62'; Cardiau Melyn:Blackmore 88'
Gôl: L Davies 55'

Torf: 998; Dyfarnwr: K J Parry

Wnaethom gwblhau ein rhaglen am 2004 gyda cholled annisgwyl arall yn erbyn un o’r timau ar waelod y Gynghrair, ond mae’n rhaid i Gaernarfon diolch - a ni difaru - perfformiad ysbrydoledig gan ei golwr Walsh try gydol y gêm. Tro ar ôl tro yn yr hanner gyntaf, safodd Walsh yn erbyn ymdrechion ein hymosodwyr, ond cadwodd ei orau yn ôl i arbed ddwywaith o ergydion Paul Roberts ym munudau olaf y gêm. Yn gynt, ac ar ôl hanner gyntaf roeddwn wedi ei dominyddu, ond heb gôl i ddangos am ein hymdrechion, beniodd Les Davies i’r rhwyd ar ôl gwaith da gan Paul Roberts a Simon Davies ar y chwith i barhau a’i rediad o goliau gyda’i ben. Wedi awr o chwarae, roddodd drosedd Phil Baker (a’r cerdyn coch daeth gyda hwnnw) y cyfle i Gaernarfon unioni’r sgôr trwy gic Lee Jones o’r smotyn. Wnaeth Caernarfon sicrhau fod y fantais o un dyn yn cyfri, a chawsant wobr am bwyso’n gyson wrth i gic rydd Mike Bird twyllo Richard Acton a gorffen yng nghefn y rhwyd. Oedd digon o gyffro'r ddau ben o’r cae yn y munudau olaf - digon o amser  Walsh dangos ei doniau eto wrth i gefnogwyr Bangor paratoi i ddathlu goliau gan Paul Roberts. Colled y bu, serch hynny, ond yn ffodus bydd gennym y cyfle i ddial yn erbyn ein cymdogion lleol ar Wŷl San Steffan wrth i Gaernarfon ymweld â Ffordd Farrar am ail ran y gêm ddau gymal yma.

 

Sadwrn 1 Ionawr 2005 ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 2 - 0 Tref Caernarfon

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Scott, Hoy, E Jones, S Davies, Williams (M Jones 65'), O Jones, Roberts, Gray (Mottram 70'), L Davies (Short 87').
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Williams 18'
Goliau: Blackmore 81', M Jones 83'

Tref Caernarfon: Walsh, Evans, Orlik, Chalk, Hobson, McNulty, Peters, Williams, Thomas (Redshaw 75'), Bird (O Jones 28'), Phillips.
Eilydd nas defnyddwyd: Roberts.
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Peters 40', Jones 78'

Torf: 636; Dyfarnwr: S L Evans

Gwnaeth y tywydd garw ei orau i sbwylio’r ail gymal o’r ymryson lleol yma, ac yn y pen draw, dau ddyn sydd wedi ymddangos yn anaml ar y rhestr o sgorwyr daeth â’r parch yn ôl ar ôl inni golli ar Yr Oval y Llun ar ôl Nadolig. Roedd y tir llithrig dan draed, a maes oedd yn gwaethygu fel aeth y gêm yn ei blaen, yn ei wneud yn amhosib chwarae gêm gyda llawer o basio’r bêl, ac ar y prydiau prin le wnaethom fygwth yn yr hanner gyntaf, wnaeth y postyn a gôl geidwad Caernarfon David Walsh rhwystro ymdrechion gorau Paul Roberts. Cafodd Caernarfon eu cyfleoedd hefyd, yn torri trwy’n amddiffyn mwy nag unwaith, ac oedd Richard Acton a’i amddiffynwyr ymlusgol yn ddiolchgar i weld ergydion yr ymwelwyr yn cael eu rhwystro gan flocio gorffwyll neu ddiffyg disgyblaeth. Daeth Morgan Jones ymlaen fel eilydd hanner ffordd trwy’r ail hanner i roi ychydig o fflach i’n llinell blaen, a deffrodd cyflymdra a chroesi celfydd y cyn-chwaraewr Everton  torf barchus oedd wrthi’n paratoi am gêm di-sgor. Deg munud cyn y diwedd, gorffennodd Clayton Blackmore ysgarmes ym mlwch cosbi'r ymwelwyr a achoswyd gan gic rydd Kevin Scott, i ergydio am ei ail gôl Gynghrair y tymor yma, a dim ond ddau funud wedyn, cafodd Les Davies hyd i Morgan Jones ar y smotyn cic cosb ar ôl rhediad a chroesiad celfydd. Trodd yr asgellwr bychan yn ergydio’n gelfydd heibio Walsh i rwydo am y tro gyntaf yn UGC, ac i sicrhau fod yna buddugoliaeth i’r ddau dîm mwynhau dros gyfnod y gwyliau.

 

Sadwrn 15 Ionawr 2005, ar Y Traeth, Porthmadog
Porthmadog 3 - 0 Dinas Bangor

Porthmadog: McGuigan, J.G.Jones, Foster, Davies, Webber, Owen, Parry, S.Jones
(Rowlands 66'), M.Williams (T.Williams 75'), C.Owen, Caughter. Eilydd nas defnyddwyd: D.Evans
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: J.G.Jones 62', Webber 76'
Goliau: Davies 23'  M Williams 59'  Carl Owen 74'

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Hoy, E.Jones, Baker, S.Davies, Connolly, O.Jones, Roberts, Gray (Mottram 75'), L.Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: Short, Friel, Ogilvy
Cardiau Coch: Dim; Cardiau Melyn: Roberts 30'
Torf: 339; Dyfarnwr: K Morgan.

Cwblhawyd dwbl prin, ond haeddiannol drosom gan Borthmadog, ar gae oer y Traeth a oedd wedi gwella’n rhagorol o lifogydd llai nag wythnos yng nghynt. I ddweud y gwir, byddai’r canlyniad wedi bod yn waeth, wrth i’r tîm cartref cael cyfleoedd i ychwanegu at y tair gôl  hawliwyd ganddynt, a wnaethom ni bygwth yn anaml - a pryd ddaethom yn agos i sgorio roedd amddiffyn Port, a rhywfaint o anlwc, wrth law i rwystro ni rhag sgorio. Wnaeth Richard Acton yn dda i lawio ymdrech gynnar gan Port dros y bar, oedd roedd ganddo ddim gobaith o gadw ergyd agos Ryan Davies o’r rhwyd. Tony Gray oedd yr agosaf i ymateb i ni, yn enwedig gydag ergyd o’r dde caeth ei gwyro ychydig heibio’r postyn pellaf am gic cornel, ond yn yr ail hanner, gwelwyd Port yn ymestyn eu mantais trwy Mark Williams a Carl Owen. Daeth ein hymdrechion gorau ni gan Gray a Paul Roberts, ond roedd Port yn haeddu eu buddugoliaeth, a ni allwn gwyno’n ormodol am y canlyniad.

 

Sadwrn 21 Ionawr 2005 ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 1- 0 Lido
Afan

Dinas Bangor: Acton, Blackmore, Scott (Short 77'), E.Jones, Baker, Hoy, Connolly, O.Jones, Roberts. Mottram (Gray 73'), L.Davies. Eilydd nas defnyddwyd: Ogilvey
Cardiau coch: Connolly 63'; Cardiau Melyn: Connolly 52'
Goliau: Connolly 41'

Lido Afan: Thomas. Roberts, Driscoll, C.Evans, Holmes, Reid, McCreesh, Pridham, Piper. Taylor (Patton 85'), Hurley (Reynolds 80'). Eilydd nas defnyddwyd: Martin
Cardiau coch: Roberts 81'; Cardiau Melyn: Piper 38',  Driscoll 43' Roberts 52' McCreesh 60' Reid 87'

Torf: 323, Dyfarnwr: S P Cavanagh

Gêm heb lawer i gofio ynddi ar brynhawn Ionawr oer a thamp - ond wnaethom lwyddo i ddod yn ôl i’r arfer o ennill gemau yn erbyn tîm cyhyrog Y Ludo. Oedd cyfleoedd yn brin, ond heriodd yr ymwelwyr Richard Acton mwy nag unwaith ond i’w ganfod yn wyliadwrus. Dangosodd yr amddiffynnwr Phil Baker yng nghanol y cae wrth ochr Owain Jones. Roddodd y newid nerth newydd yng nghanol y cae a manteisiodd Owain (fel capten newydd i’r tîm)  ar y cyfle i ddangos ei doniau ymosodol. Daeth yr unig gôl ychydig cyn yr egwyl, pan roddodd dyfalwch Mark Connolly yn erlid pêl oedd yn ymddangos yn bell o’i flaen y cyfle iddo blaen troedio i gefn y rhwyd ar ôl dryswch yn amddiffynfa’r ymwelwyr. Fflachiodd yr ail hanner i fywyd gyda dwy sgarmes, gyda Connolly a Roberts (o’r ymwelwyr) yn gweld y cerdyn coch. Cafwyd bygythiadau achlysurol gan Y Lido o giciau rhydd, ond rwystrodd ein hamddiffyn yr ymosodiadau heb lawer o drafferth.

Mawrth 25 Ionawr, ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 1 - 0 Dinas Caerdydd (Cwpan Cenedlaethol CB-dC)

Dinas Bangor: Priestley, Blackmore, Scott, E Jones, Hoy, Baker, Connolly, O Jones, Roberts, Gray, Davies (Mottram 87). Eilyddion nas defnyddwyd: Short, Ogilvy, Garside, Owen
Cardiau Coch: Dim; CArdiau Melyn: Dim
Gôl: Anthony (og) 4'

Dinas Caerdydd: Barrett, Anthony, Huggins, Fish (Parkins 86), Parslow, Rberry, Taylor, Koskela, Fleetwood, Thomas (Easter 60), Kift (McDonald 69). Eilyddion nas defnyddwyd: Allison, Morgan
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: Dim: Anthony 74', Rubery 75'
    
Torf: 1086; Dyfarnwr: C Richards

Achosodd damwain ar yr A55 cychwyn hwyr i'r gêm yma, ac fe welwyd cychwyn llawn cyffro wrth ini roi'r tîm ifanc o Gaerdydd o dan bwysau mawr. Gyda phum chwaraewr oedd wedi ymddangos yn y tîm cyntaf, yn ogystal â chwaraewr oedd wedi cynrychioli’r Ffindir ar lefel dan-21, golethwyd Caerdydd wrth i’n flaenwyr, Paul Roberts a Tony Gray, dargonfod lle dros hyd a lled y maes. Cymerodd ond pedair munud inni fynd ar y blaen wrth i gic cornel Kevin Scott cael ei gwyro i’w rhwyd ei hun gan gapten Caerdydd Byron Anthony.  Wrth i ni barhau i chwarae ar amseriad cyflym, wnaethom greu mwy o gyfleoedd wrth i Paul Roberts ergydio heibio’r postyn ychydig wedyn, ac wedyn yn pasio i Gray a orfododd i Barret arbed yn fedrus yn gôl yr ymwelwyr. Wnaethom barhau i ddominyddi'r gêm gyda phasio celfydd a chyrraedd y bêl yn gynt na’r ymwelwyr, ond methu ac ymestyn y fantais wnaethom er i ni weld digon o’r bêl. Bygwth ychydig wnaeth Caerdydd, gyda Fleetwood a Thomas yn methu gwneud argraff yn y llinell flaen yn yr hanner gyntaf. Gwelwyd newid ar ôl yr egwyl, gyda’r ymwelwyr yn dangos mwy o ymdrech, yn gweld mwy o’r bel, ond eto yn methu a bygwth ein gôl ni. Ni achoswyd ychydig o ergydion o bellter unrhyw drafferth i Phil Priestley, yn ôl yn y gôl gartref, a thebyg mai o gic rydd byddai unrhyw gôl Caerdydd yn dod. Yn amddiffynnol, wnaethom gadw ein disgyblaeth yn dda, ac er syndod i neb, y gôl gynnar oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm. Gyda Paul Roberts o hyd yn fygythiol, roedd ambell gyfle i ni ymestyn ein mantais. Gyda 15 munud ar ôl, peniodd Eifion Jones i’r rhwyd, ond penderfynodd y dyfarnwr i beidio caniatáu’r gôl oherwydd gwthio. Wrth i’r chwiban olaf canu, dangosodd ein cefnogwyr hyfrydwch mawr mewn buddugoliaeth enwog. Gyda diolch i www.faw-premiercup.com

 

Gwener 28 Ionawr 2005 ar Ffordd Farrar
Dinas Bangor 2 - 0 Crwydriaid Cei Connah (Uwch-Gynghrair Cymru)

Dinas Bangor: Priestley, Blackmore (O'Neill 89'), Scott, E.Jones (Short 89'), Hoy, Baker, Thomas, O.Jones, Roberts, Mottram (Gray 80'). Eilydd nas defnyddwyd: Ogilvy
Cardiau coch: Dim; Cardiau Melyn: Scott 70'
Goliau: Scott 29'  Paul Roberts 32'(p)

Crwydriaid Cei Connah: Bryan, Tuft, Heath (Rain 45'), Hutchinson, Horan, Jellicoe, C.Williams, Mutton, Crawford, Griffiths (D.Williams 45'), Owen (Mazzarella 33'). Eilydd nas defnyddwyd: Cooke
Cardiau coch: Dim; Cardiau Melyn: Hutchinson 71'

Torf: 439; Dyfarnwr: A Richards

Wnaethom gwblhau wythnos dda o waith gyda'n trydedd fuddugoliaeth ddilynol yn ein trydedd gêm gartref dilynol - buddugoliaeth argyhoeddiadol dros Cei Connah, oedd wedi bod mewn hwyl dda yn ddiweddar. Yn wir, byddai wedi bod yn hawdd i'r fuddugoliaeth bod yn haws byth. Trwy gydol y rhan helaeth o'r gêm, oedd yr ymwelwyr dan bwysau, gyda'n chwaraewr newydd Neil Thomas yn setlo'n gyflym ar y dde - yn croesi'r bêl yn gelfydd, ond hefyd yn taclo yn ôl, pryd gododd yr angen. Roedd ein cefnwyr hefyd yn awyddus i ymuno'r a'r llinell ymosod, a dangoswyd cydweithrediad rhyngddynt i greu ein gôl gyntaf ar ôl hanner awr. Tarodd Clayton Blackmore postyn yr ymwelwyr gydag ergyd nerthol, ac o'r gic rydd roddwyd wrth i Gei Connah glirio'r bêl yn anniben, sgoriodd ein cefnwr chwith Kevin Scott ei gôl gyntaf i'r clwb, yn ergydio'n anorchfygol trwy'r bwlch y gadawyd gan ddargyfeiriad clyfar Blackmore. Dilynodd yr ail gôl yn fuan wedyn, wrth i Paul Roberts rhwydo o'r smotyn, wrth i amddiffynnwr Cei Connah llawio'r bêl yn y cwrt cosbi. Roedd ein cefnogwyr yn edrych ymlaen at ychwaneg o goliau yn yr ail hanner, ond er i Eifion Jones taro'r bar gyda pheniad, ac er i Thomas, Owain Jones, Mottram a Roberts hefyd mynd yn agos, efallai ein bod wedi ymlacio ychydig ac oedd rhaid bodloni gyda'r ddwy ymdrech.

 

Sadwrn 5 Chwefror, 2005 ar Y Treflan, Llansantffraid
Total Network Solutions 2 – 1 Dinas Bangor (Cwpan Cymru, 4ydd rownd)

TNS: Doherty, King, Holmes, Aggrey, Evans, Hogan, Ruscoe, Lloyd-Williams, Wilde, Toner (Lawless 62'), Wood. Eilyddion nas defnyddwyd: Taylor, Beck.
Cardiau coch: Dim; CArdiau melyn: Dim
Goliau: Wilde 66' Ruscoe 90'

Dinas Bangor: Priestley, Blackmore, Scott, Hoy, Jones, Baker, Connnolly, O Jones, Roberts, Gray (Mottram 29'), Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: Short, O'Neill
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: Blackmore 90'
Gôl: Roberts 72’

Roedd gôl yn y munud olaf, wedi creu gan gyn-ffefryn Bangor, yn ddigon i orffen ein diddordeb yng Nghwpan Cymru eleni. Tan hynny, roeddwn wedi cystadlu’n dda yn erbyn tîm llawn-amser UGC, mewn gêm lle oedd cyfleoedd yn brin. I Frank Mottram, a daeth ymlaen fel eilydd yn lle Tony Gray a oedd wedi cael ei anafu, daeth y cyfle gorau i ni yn yr hanner cyntaf, Mottram yn ergydio dros y bar pan oedd mewn safle da, a hefyd gwelodd Paul Roberts y golwr cartref yn arbed ei ergyd. Oedd yn gêm yn ddi-sgor ar yr egwyl, ac yn gytbwys. TNS oedd y gyntaf i sgorio yn yr ail hanner, Wilde yn darganfod cefn y rhwyd wedi ergydio ar draws y cwrt cosbi, wrth i’r bêl adlamu i’w fantais. Ond wnaethom dangos ein cymeriad trwy frwydro yn ôl yn syth, gydag ergyd Paul Roberts yn gwyro ychydig i guro’r golwr, wedi gwaith adeiladol dda gan Owain Jones a Les Davies. Cawsom y cyfle i fynd ar y blaen am y tro gyntaf ychydig o funudau wedyn, ond oedd Paul Roberts yn anlwcus i weld ei beniad yn curo’r golwr, ond hefyd yn taro’r postyn ac yn rhedeg I ddiogelwch. Cymerodd yr anlwc yma'r gwynt o’n hwyliau, a daeth y tîm gartref yn ôl yn gryf, eu dyfalbarhad a’u ffitrwydd yn gwneud y gwahaniaeth pan gafodd pas dawnus Marc Lloyd-Williams o’r llinell gôl ar y dde hyd i Ruscoe a beniodd i gefn y rhwyd o agos. Gêm agos a chytbwys - a allasai, gydag ychydig o lwc, wedi gorffen mewn buddugoliaeth i ni.

 

Mawrth 8 Chwefror 2005 ar Barc Latham, Y Drenewydd
Y Drenewydd 0 - 0 Dinas Bangor

Y Drenewydd: Ellacott, Harris, Giles, Hughes, Allen, Moody, Brown (Matthews 75'), D.Desormeaux, Field (Webb 84'), Barton, Futcher. Eilyddion nas defnyddwyd: O.Williams, C.Williams, Langford.
Cardiau coch: Dim; Cardiau melyn: Allen 81'

Dinas Bangor: Priestley, Short, Scott, Hoy, O'Neill, Baker, Thomas, O.Jones, Roberts, Mottram (Connolly 78'), Davies. Eilyddion nas defnyddwyd: E.Jones, Owen.
Red Cards: None; Yellow Cards: None

Torf: 225; Dyfarnwr: N L Morgan

Dau dîm allan o’r hwyl gorau, gêm ddifflach gyda nifer o droseddau pitw a noson oer o Chwefror gyda thorf fach - dim yn argoeli’n dda am noswaith ddiddorol, ac felly y bu gyda’r Drenewydd a Dinas Bangor yn cystadlu gêm di-sgor. Roedd yna gyfleoedd - ond ar y noson method y blaenwyr manteisio arnynt. Methodd y tîm gartref y cyfleoedd gorau - Danny Field yn ergydio dros y bar pan oedd yn haws i sgorio, a dau flaenwr Y Drenewydd yn drysu ei gilydd pan ddaeth cyfle i benio i’r rhwyd ar y postyn pellaf. Oedd rhaid i Phil Priestley hefyd bod yn wyliadwrus wrth i’r tîm cartref bygwth. Daeth ein hymdrechion gorau ni gan Frank Mottram a Paul Roberts, gyda golwr Y Drenewydd Marty Ellacott yn arbed yn gampus o ergyd y bytholwyrdd Mottram yn yr ail hanner. Daeth Neil Thomas yn agos i ni hefyd, yn taro’r bar gydag ergyd wych o’r tu allan i’r cwrt cosbi.

 



Clayton Blackmore - dylanwad lleddfol yn yr amddiffyn

 



Morgan Jones - asgellwr dde llawn triciau

 



Chris Priest - anaf anffodus yn erbyn Y Trallwm

 




© 2004 Bangor City F.C.