SIOPWCH AR-LEIN A CHEFNOGWCH CPD DINAS BANGOR!
CLICIWCH LABEL GOCH "BUY AT" ISLAW AR Y CHWITH A MYNNWCH FARGEINION GWYCH
HANES MEWN LLUN: Gyda dyddiau Dinas Bangor ar Ffordd Farrar yn debygol o ddod i ben mewn ychydig o flynyddoedd, dyma’r amser delfrydol i gipio swfenîr o’r stadiwm enwog. Mae lluniau o’r awyr o’r maes, a’r rheini uchel eu safon, ar gael trwy siop y Clwb am £20.00 (pacio a chludiant £3.00 yn ychwanegol). Mae’r lluniau yn gyfun i rediad o 1000 ac y maent yn dod gyda thystysgrif a hanes byr o’r maes.
MAE'R CYLCHGRAWN "WELSH FOOTBALL" ... yn awr i'w brynu yn reolaidd yn siop y Clwb (pris £2.00), ac mae rifyn y Blwyddyn Newydd ar gael yn awr. Yn ogystal â'r casgliad arferol o newyddion lleol a chenedlaethol, ac adolygiadau, mae'r cyfrol diweddaraf yma yn ffocusu ar glybiau Llandyrnog United a Pentywyn Dynamos, yn cymeryd golwg ar broblemau'r Barri a Ffynnon Tâf, ac yn cynnwys ymchwil pellach ar hanes gynnar y gêm yng Nghymru. (30 Rhagfyr 2004)
CURWCH Y TAGFEYDD AR DDYDD SADWRN: Fel ein fod yn disgwyl torf mawr i;n gêm yn erbyn Caernarfon (CG 2.30 pm), ac am fod taffig ar y ffyrdd i mewn i Fangor yn ddrwm ar hyn o bryd, byddwch gystal â helpu'ch hunain a staff y giatiau trwy trwy gyrraedd yn fuan i'r gêm. Llawer o ddiolch. (28 Rhagfyr 2004)
Y TÔT WYTHNOSOL: Rhifau 27 a 16. Dim enillydd o'r £200.00 yr wythnos yma, felly bydd jacpot wythnos nesaf yn £300.00. (26 Rhagfyr 2004)
ROWND GO GYN-DERFYNOL Y CWPAN CENEDLAETHOL: Chwareir ein gêm yn erbyn Dinas Caerdydd yn y gystadleuaeh yma ar nos Fawrth 25 Ionawr 2005, Cic Gyntaf i'w gadarnhau. (24 Rhagfyr 2004)
AR DAITH GYDA DINAS BANGOR: Os hoffech ein cefnogi oddi gartref yn y Blwyddyn Newydd, beth am fwcio lle ar goets y cefnogwyr ar gyfer yng ngemau yn Y Trallwm a Llansantffraid. Trwy’r Gymdeithas Cefnogwyr, gallwch brynu tocyn coets am ein gêm yn erbyn Y Trallwm ar Sadwrn 8 Ionawr yn ystod ein gêm gartref yn erbyn Caernarfon ar Ddydd Calan, a thocyn cots ar gyfer ein gem yng Nghwpan Cymru yn TNS yn ystod ein gêm gartref yn erbyn Lido Afan ar 22 Ionawr. Pris tocynnau coets am y ddwy gêm yw £10.00. (24 Rhagfyr 2004)
GARETH WILLIAMS YN AIL-ARWYDDO: Mae'r chwaraewr canol-cae amryddawn Gareth Williams wedi ail-arwyddo ini am gyfnod byr dros y Nadolig, tra'n cymryd seibiant o'i astudiaethau yn America. Sgoriodd Gareth gyda'i cyffyrddiad cyntaf yn UGC, yn benio'i gôl yn gêm oddi gartref yn erbyn Port Talbot yn 2002. Mwy am Gareth ar dudalen "Carfan Tîm Cyntaf". (23 Rhagfyr 2004)
ENNILLYDD CLWB 200: Ennillydd lotri clwb '200' am fis Tachwedd yw cefnogydd o Nottingham, sydd yn bachu £225.50. Am daliad reolaidd o £10.00 y mis, mae'r Clwb 200 yn ffordd di-ffwdan o gefnogi Dinas Bangor. Cysylltwch â Brian Lucas ar 01492 515002 neu Brian.Lucas@btinternet.com am ychwaneg o fanlyion (15 Tachwedd 2004)
YR IFANC YN DANGOS EU DONIAU: Bydd cyfle i weld y genhedlaeth nesaf o sêr Dinas Bangor wrth i’n Academi herio Academi Stoke ar nos Fawrth, 21 Rhagfyr ar Ffordd Farrar, CG 7.30 pm. Dowch i lawr i gefnogi’r rhai ifanc a cheisio dyfalu sêr yfory! (11 Rhagfyr 2004) NEWYDDION HWYR: GÊM WEDI'I CANSLO OHERWYDD CAE WLYB (21 Rhagfyr 2004, 18:24)
DANGOSWCH EICH CEFNOGAETH: Fel y gwyddoch, yn y dyfodol agos bydd Cyngor Gwyned yn ystyried cais cynllunio am stadiwm gyda seddau ar gyfer 3000 o wylwyr, hwn i'w adeiladu ar safle Nantporth ar Ffordd Caergybi, Bangor. Mae hwn yn gyfle euraidd nid yn unig i Ddinas Bangor, ond hefyd i Ogledd Orllewin Cymru yn gyffredinol. Rydym yn gofyn am i chi ymuno gyda ni i alw ar Gyngor Gwynedd i gymeradwyo'r cais yma. I ddangos eich cefnogaeth, gallech. 1. Ysgrifennu at y Rheolydd Cynllunio, Cyngor Gwynedd, Swyddfa Ardal Arfon, Penrallt, Caernarfon LL55 1BN (Os hoffech, gallech gael templed o lythyr, yn y Gymraeg nae'r Saesneg, trwy gysylltu gyda'r Clwb ar 01248 725745, neu info@bangorcityfc.com)
2. Arwyddo, neu helpu casglu enwau, ar y ddeiseb sydd yn cylchredeg o gwmpas Bangor ac y bydd ar gael dros y gwyliau (Eto, ceir gopïau o'r ddeiseb o'r Clwb os hoffech gael un i'r gweithle neu er mwyn i'ch ffrindiau arwyddo) 3. Arwyddwch ein deiseb ar-lein yma - a phasiwch y deiseb ymlaen i'ch ffrindiau. (20 Rhagfyr 2004)
Y TÔT WYTHNOSOL: Rhifau 16 and 46. Dim enillydd o'r £100.00 yr wythnos yma, felly bydd jacpot wythnos nesaf yn £200.00. (19 Rhagfyr 2004)
YSGOLION I’R IFAINC: Mae Swyddog Cymunedol Dinas Bangor, Lee Dixon, yn awr yn cymryd enwau ar gyfer Ysgolion Pêl-Droed i’r ifanc trwy Ragfyr ac i mewn i 2005. Mae sesiynau ar gyfer oedran 5 - 8 ar Ddydd Iau, a’r oedran 9 - 14 ar Ddydd Mawrth. Bydd hefyd sesiynau hwyl arbennig ar gyfer yr ieuenctid ar 20, 21 a 22 Rhagfyr o 10 am hyd 3 pm. Bydd pob sesiwn dan ofal hyfforddwr gyda chymwysterau UEFA ac yn cael ei chynnal ym Maes Glas. I gofrestru am le, cysylltwch â Lee ar 01248 811508. (15 Rhagfyr 2004)
CEFNOGWCH EICH HOFF CHWARAEWR: Gyda phob math o hynt a helynt m’n blanau yn y Blwyddyn Newydd, beth am roi hwb i’ch hoff chwaraewr two ei noddi, neu noddi ei git, am weddill y tymor. Cost nawdd i chwaraewr yw £50.00 a nawdd i’w cit £40.00. Gallech weld ar dudalen “Carfan Tîm Cyntaf” ar y safle yma pa chwaraewr (a chitiau) sydd ddal i chwilio am noddwyr - i drefnu eich cyfraniad, cysylltwch â Brian Lucas ar 01493 515002. (15 Rhagfyr 2004)
ANRHYDEDDU’R RHYNGWLADOLWYR: Derbyniodd ddau o’n chwaraewyr ifanc addawol eu capiau rhyngwladol gan is-lywydd CPC J O Hughes cyn ein buddugoliaeth ddiweddar yn erbyn Airbus UK. Cyflwynwyd cap dan-17 oed i Carl Jones, a derbyniodd Les Davies cap dan-21.Dathliadodd Les yr achlysur trwy rwydo ddwywaith yn erbyn Airbus yn ein buddugoliaeth 5 - 0. (11 Rhagfyr 2004)
YR IFANC YN DANGOS EU DONIAU: Bydd cyfle i weld y genhedlaeth nesaf o sêr Dinas Bangor wrth i’n Academi herio Academi Stoke ar nos Fawrth, 21 Rhagfyr ar Ffordd Farrar, CG 7.30 pm. Dowch i lawr i gefnogi’r rhai ifanc a cheisio dyfalu sêr yfory! (11 Rhagfyr 2004)
WEFAN YN CREU HANES: Mae bangorcityfc.com wedi cael ei dewis gan Lyfrgell Cenedlaethol Cymru i gymryd rhan mewn prosiect arloesol i greu archif o safleoedd we fel y byddant ar gael i ymchwilwyr y dyfodol. Dywedodd lefarydd ar ran y Clwb, “Rydym wrth ein boddau i chwarae’n rhan, yn enwedig oherwydd bod y Llyfrgell Genedlaethol yn ystyried y safle yn rhan bwysig o hanes dogfennol Cymru. (11 Rhagfyr 2004)
SEREN Y DWYRAIN: Tystiolaeth fod enw Dinas Bangor yn hysbys yn fyd-eang wrth i Les Davies derbyn llythyr oddi wrth y cefnogwr Kevin Leung sydd yn byw yn Hong Kong. Dywedodd llefarydd ar ran y Clwb, “rydym yn derbyn negeseuon o bob rhan o’r byd - ond efallai mai hwn yw’r tro gyntaf i gefnogwr o dramor holi am yn o’n chwaraewyr cynhenid. Roedd Les wrth ei fodd i dderbyn y llythyr, ac yn hapus iawn i ymateb gyda llun yn dwyn ei llofnod. (11 Rhagfyr 2004)
CWPAN CENEDLAETHOL: Dinas Caerdydd bydd yn dod i Ffordd Farrar yn rownd gogynderfynol y gystadleuaeth yma - y gêm i'w chwarae ym mis Ionawr - yr union dyddiad i’w gadarnhau. (11 Rhagfyr 2004)
CEFNOGWYR RHAN-AMSER YN UNIG: Gyda hanner y tymor dal i fynd - a digon o gyffro dal i ddod, mae’n siŵr, beth am gymryd y cyfle i arbed arian yn y Blwyddyn Newydd wrth archebu tocyn hanner tymor Dinas Bangor yn awr. O 1 Ionawr 2005 hyd ddiwedd y tymor, bydd y tocyn yn ddilys am holl gemau’r Clwb (yn cynnwys gemau Cwpan) ar Ffordd Farrar ac yn costio £44.00 am oedolion, £30.00 i’r henoed a myfyrwyr, a £12.50 i’r ifanc o dan 18 oed. Er mwyn gwneud cais, anfonwch eich taliad, ynghyd a’ch manylon gyswllt llawn a phrawf eich staws os ydych chi'n ceisio am ostyngiad i Brian Lucas, 12 Ffordd Tirionfa, Hen Golwyn. Gall cefnogwyr anghyflogedig hefyd ceisio trwy Gymdeithas Annibynnol y Cefnogwyr - cysylltwch a farrarend@dsl.pipex.com neu ffoniwch Nigel ar 07944 694801. (11 Rhagfyr 2004)
NEWID AMSER CIC GYNTAF: Noder mai am 7.45 yr hwyr bydd ein gêm yn erbyn Aberystwyth ar Fawrth, 7 Rhagfyr yn cychwyn. (5 Rhagfyr 2004)
RECORD I’R IFANC? Wrth ddod ymlaen fel eilydd yn ystod ein buddugoliaeth 5 - 0 diweddar yn erbyn newydd-ddyfodwyr I UGC, Airbus UK - a dim ond yn 16 oed ac ychydig o wythnosau, mae rhai o’r hen bennau ar deras y Stryd Fawr yn amau mai Ben Ogilvy yw’r Dinesydd ifancaf erioed. A record newydd i’r Clwb yw hwn - na ydych chi yn gwybod yn well? (5 Rhagfyr 2004)
GWYN YN GWNEUD ARGRAFF! Yn sicr gwnaeth ein Llwydd Gwyn Pierce Owen argraff ar gyflwynwraig pêl-droed hudolus S4C Amanda Protheroe Thomas pan ymddangosodd fel gŵr gwadd ar y rhaglen ar ol ein gêm gyfartal ddiweddar yng Nghaersws. Wedi gwirioni gyda huodledd Gwyn, oddi ar y camera mynegodd Amanda y farn y byddai’n hoffi cael Gwyn fel gwestai pob wythnos! (5 Rhagfyr 2004)
Y TÔT: Rhifau 15 a 41. Dim enillydd yr wythnos yma, felly bydd jacpot wythnos nesaf yn codi i £400.00. Mae pob rhif ac enw pob enillydd ar dudalen y TÔT. (28 Tachwedd 2004)
MILFED FERGIE: Gêm Manchester United yng Nghwpan y Pencampwyr yn erbyn Lyons I’w (I’w chwarae ar 23 Tachwedd) bydd y 1000fed i’r Diawliaid Cochion o dan arweinyddiaeth Sir Alex Ferguson - ac mae’n siwr bydd y garreg filltir yn dod ac atgofion yn ôl i ddau o ffefrynau Bangor. Roedd Clayton Blackmore a Peter Davenport yn dîm gyntaf Sir Alex, mewn gêm Adran Gyntaf yn erbyn Rhydychen yn ôl yn Nhachwedd 1986. Y tîm llawn oedd Chris Turner, Mike Duxbury, Graeme Hogg, Kevin Moran, Arthur Albiston, Paul McGrath, Remi Moses, Blackmore, Peter Barnes, Frank Stapleton, Davenport, a Jesper Olsen. O ie - y canlyniad? Buddugoliaeth 2 - 0 i Rydychen (19 Tachwedd 2004).
ENNILLYDD CLWB 200: Ennillydd lotri clwb '200' am fis Hydref yw Mr Owen o Fangor. Mae’n ennill £227.50 (15 Tachwedd 2004)
CLAYTON AR TALKSPORT: Oedd amddiffynnwr bytholwyrdd Dinas Bangor Clayton Blackmore yn gyfrannwr annisgwyl ar raglen trafod dros y ffôn ar orsaf radio TalkSport. Mynegodd Clayton ei farn ar benodiad Bryan Robson fel rheolwr WBA, ond cymerodd Clayton y cyfle hefyd i hybu Dinas Bangor ac i son ei fod ar y pryd wrthi’n paratoi i wynebu Crwydriaid Cei Connah yn ein gêm yn y Cwpan Genedlaethol. (15 Tachwedd 2004).
APÊL AM WYBODAETH YNGLŶN AG ARWR O’N GEMAU YN NAPLES: Mae Leonie Davies o Fangor wedi cysylltu gyda ni yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â’i thaid, Leonard Davies, yr oedd yn gapten ar Fangor yn ystod ein brwydrau yn erbyn Napoli, y cewri o’r Eidal yn ystod y 1960au. Roedd tad Leonie, a’i enw o yn Leonard hefyd yn gôl-geidwad i Fangor ychydig yn ddiweddarach. Os oes gan unrhyw gefnogwyr atgofion am Leonard Davies yr hynaf, cysylltwch gyda ni yn y cyfeiriad arferol, ac mi wnawn yn siŵr eu bod yn cael eu pasio i Leonie. (15 Tachwedd 2004).
HOGYN O’R ACADEMI AR YMYLON Y GARFAN TÎM CYNTAF: Mae Ben Ogilvy, sy’n 16 blwydd oed ac yn dod o ardal Pwllheli ymysg nifer o hogiau Academi Dinas Bangor sydd yn awr yn pwyso am gyfle gyda charfan ein tîm cyntaf. Mae’n rheolwr Peter Davenport yn ddweud, “Mae gan Ben troed chwith cryf, mae’n gryf yn yr awyr, ac mae gado’r brwdfrydedd i lwyddo”, ond wrth frolio agwedd Ben, mae Gyfarwyddwr yr Academi, Mel Jones hefyd yn rhybuddio, “Mae’r gwaith go iawn yn cychwyn yn awr, er mwyn I Ben gyrraedd ei wir botensial”. Mae Ben, a hogiau addawol eraill o’r Academi, wedi bod yn hyfforddi gyda charfan y tîm gyntaf am oddeutu mis, ac yn ôl Peter Daveport, mae’r cynllun o ffurfio cysylltiadau agosach rhwng y sustem ieuenctid a’r tîm gyntaf yn allweddol i sicrhau fod chwarae i Ddinas Bangor yn ddilyniant naturiol i’r gorau o dalent pêl-droed lleol. (15 Tachwedd 2004).
GÊM ABER WEDI'I AIL-DREFNU: Mae'n gêm garterf yn erbyn Aberystwyth, oedd wedi ei ohirio, yn awr wedi'i ail-drefnu ar gyfer nos Fawrth 7 Rhagfyr (15 Tachwedd 2004)
GEM ABER WEDI'I OHIRIO: Mae'n gem yn erbyn Aberystwyhth, oedd i fod i gael ei chwarae y Sadwrn yma, 13 Tachwedd, wedi ei ohirio oherwydd ymrwymiadau y tim o'r Canolbarth yng Nghwpan Cymru. (8 Tachwedd 2004)
4YDD ROWND CWPAN CYMRU: Pe byddwn yn llwydiannus i guro Dinas Powys ar 7 Tachwedd, blaenwyr yr Uwch-Gynghrair Total Network Solutions bydd ein gwrthwynebwyr yn y rownd nesaf. (6 Tachwedd 2004). Wedi'i gadarnhau - Total Network Solutions yn erbyn Bangor, i'w chwarae ar Sadwrn 5 Chwefror 2005, cic gyntaf 2.30 pm. (8 Tachwedd 2004)
GARSIDE YN ARWYDDO: Rydym yn falch i gyhoeddi bod yr amddiffynnwr 19 oed Craig Garside wedi ymuno gyda ni. Mae Craig wedi'i arwyddo o Fae Colwyn, ac yn gynt roedd wedi cofrestru gyda chlwb Everton- yn chwarae wrth ochr asgellwr Bangor Morgan Jones. Mae hefyd wedi cynrychioli - a chapteinio - Cymru ar nifer o lefelau iau. Mae'r caffaeliad yma yn esiampl eto fod ein rheolwr Peter Davenport yn benderfynol o fachu'r dalent ifanc gorau yn y rhanbarth, yn ddilynol i'n llwyddiant o ddenu'r ymosodwr Tony Gray a datblygiad parhaol o'r chwaraewr canol cae Mark Connolly. Bydd Craig ar gael i'r gêm Cwpan Cymru yn erbyn Crwydriaid Cei Connah Mawrth nesaf. Ychwaneg am Craig ar dudalen "Carfan Tîm Cyntaf". (6 Tachwedd 2004)
LLWYDDIANT I'R IFANC: Oedd tîm ieuenctid y Clwb yn fuddugwyr cyfforddus dros ymwelwyr o’r Drenewydd yn ddiweddar. Oedd Peter Davenport ymysg y sawl ar Ffordd Farrar i weld tîm Mel Jones yn ennill o 4 - 2 gyda dwy gôl yr un o Craig Tipton a Iwan Jones. Diolch i www.citizens-choice.co.uk am yr eitem yma. (3 Tachwedd 2004)
RHODD GAN Y CEFNOGWYR: Mae Cymdeithas Cefnogwyr CPD Dinas Bangor wedi cyflwyno gwerth dros £250 o offer hyfforddi i Academi Ieuenctid y Clwb. Ond un o nifer o roddion cyffelyb i adrannau gwahanol o’r Clwb yw hwn gan y cefnogwyr, a gwerthfawrogir hwn yn arw. Cyflwynwyd yr offer i Gyfarwyddwr yr Academi Mel Jones gan Nigel Pickavance a Michael Ishmael o Gymdeithas y Cefnogwyr a manteisiodd Nigel a Michael ar y cyfle i wneud ychydig o recriwtio i’r Gymdeithas ymysg y chwaraewyr ifanc. Ychwaneg o wybodaeth am y Gymdeithas Cefnogwyr trwy glicio ar y linc ar y chwith. (3 Tachwedd 2004)
Y TÔT: Rhifau 7 a 49. Mae un enillydd (i’w gadarnhau) a’r wobr yr wythnos yma yw £100.00 felly dyna fydd swm y jacpot yr wythnos nesaf hefyd. Mae pob rhif ac enw pob enillydd ar dudalen y TÔT. (31 Hydref 2004)
Y CWPAN CENEDLAETHOL: Bydd y gêm yn yn rownd nesaf yn erbyn Cei Connah yn cael ei chwarae ar Ffordd Farrar ar Nos Fawrth, 9 Tachwedd am 7.30pm. Mae’r wobr ariannol yn y gystadleuaeth yn enfawr gyda £100,000 i enillwyr y ffeinal. Mae’r cystadleuaeth hefyd yn rhoi cyfle i glybiau sy’n chwarae yng Nghymru chwarae yn erbyn y clybiau hynny sydd yn croesi Clawdd Offa gyda Chaerdydd, Wrecsam ac Abertawe yn ymuno yn y rowndiau olaf. (31 Hydref, 2004)
WHITFIELD I AIRBUS: Mae’r golwr Paul Whitfield wedi gadael y clwb ac wedi symud i Airbus UK. Diolch i Paul am ei wasanaeth a dymuniadau da i’r dyfodol. (25 Hydref, 2004)
RHEOLWR ENWOG. Cafwyd cyfweliad efo un o reolwyr enwocaf Cymru yn fyw yn Ffordd Farrar ddydd Mawrth diwethaf ar y rhaglen Wedi Saith. Na, nid John Toshack. Brian Flynn, Gary Speed nac unrhyw un arall sy’n ceisio am y swydd o reoli Cymru – a nid oes rheswm i reolwr presennol Bangor, Peter Davenport, boeni ychwaith! Y rheolwr dan sylw oedd Arthur Picton, yr actor John Pierce Jones, rheolwr Bryncoch FC yn y rhaglen gomedi Cmon Midffild! Roedd hyn yn rhan o hysbys ar gyfer rhaglen arbennig i’w darlledu dros y Nadolig. (22 Hydref 2004)
CWPAN CYMRU: Dinas Powys fydd ein gwrthwynebwyr yn Rownd 3 y gystadleuaeth ar Ddydd Sul 7 Tachwedd am 2 o’r gloch. Mae Dinas Powys wedi trechu Risca a Gelli FC cyn hyn – mae’r gêm oddi gartref. (22 Hydref 2004)
ACADEMI MENAI: Bu CPD Dinas Bangor yn rhan o noson wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngholeg Menai, fel rhan o’r ymgyrch ar y cyd rhwng y Clwb, Coleg Menai a Chlwb Rygbi y Scarlets i ddarganfod chwaraewyr mwyaf addawol y fro. Am fwy o wybodaeth am yr Academi cysylltwch efo tudalennau Academi/ieuenctid y wefan. (17 Hydref, 2004)
MYNEDIAD i FYFYRWYR: Roedd llawer o’r rhai a fynychodd y gêm yn erbyn Hwlffordd yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o’r Brifysgol ac o Goleg Menai a oedd yn cael mynediad am ddim. Manteisiodd dros 70 o fyfrwyr ar y cynnig a’r gobaith yw y bydd y rhain yn dod i weld Bangor yn rheolaidd gan dalu! Roedd pasus arbennig ar gael drwy Adran Chwaraeon Coleg Menai a Ffair y Glas yn y Brifysgol ac roedd gan y Clwb stondin nwyddau yno hefyd. ( 10 Hydref 2004)
CERDDORIAETH CYFOES: Roedd y miwisg a oedd i’w glywed yn y gêm yn erbyn Hwlffordd yn fwy cyfoes na’r arfer oherwydd i Storm FM, gorsaf radio’r Brifysgol, noddi’r gêm. Mae hyn yn rhan o ymgyrch y Clwb i greu cysylltiadau efo’r Brifysgol – partneriaeth sydd wedi sicrhau cefnogaeth a chwaraewyr dawnus dros y blynyddoedd. (10 Hydref 2004)
ARWYDDO GRAY: Mae Peter Davenport wedi symud yn gyflym i ychwanegu at y garfan drwy arwyddo’r ymosodwr ifanc Tony Gray, sy’n ymuno o glwb Newton sy’n chwarae yn y West Cheshire League. Am fwy o wybodaeth am Tony gweler y dudalen ‘carfan y tîm cyntaf’. (28 Medi 2004)
BARGEINION AR-LEIN – SIOPA DRWY CPD DINAS BANGOR: Mae Bangor wedi ymuno â chynllun fydd yn sicrhau arian ychwanegol i’r Clwb. Mae gennym siop ar y we, sef www.buy.at/bangorcityfc sydd efo cyswllt i nifer o siopau mawr y wlad ac mae’r Clwb yn derbyn comisiwn oddi wrthynt. Mae’r siopau yn cynnwys Marks and Spencer, Amazon, Oddbins a llawer mwy. Mae grwpiau eraill yn ennill £2 ar bob archeb felly, os am helpu’r Clwb, dechreuwch siopa yn www.buy.at/bangorcityfc (27 Medi 2004)
SCOTT YN CYRRAEDD: Rydym yn falch o gyhoeddi fod y chwaraewr canol cae Kevin Scott wedi ymuno o Gaersws. Bydd Kevin ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn y Drenewydd yn y Cwpan Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth am Kevin gweler y dudalen ‘carfan y tîm cyntaf’. (27 Medi 2004)
GOLWR NEWYDD: Mae Richard Acton wedi arwyddo i ni o TNS gan ddechrau’n addawol iawn drwy beidio ildio’r un gôl yn y fuddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Derwyddon Cefn. Am fwy o wybodaeth am Richard gweler y dudalen ‘carfan y tîm cyntaf’. (25 Medi 2004)
YSGOL HYFFORDDI: Mae’r Clwb yn rhedeg cyfres o ysgolion pêl-droed drwy dymor yr hydref. Mae hyn yn gyfle gwych i ieuenctid lleol ddysgu a datblygu sgiliau dan arweiniad hyfforddwyr sydd wedi eu hyfforddi drwy UEFA. Yn ystod tymor yr hydref bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn Maes Glas, Ffordd Ffriddoedd, Bangor bob dydd Iau rhwng 4 - 5 pm i blant 5 - 8 mlwydd oed a phob dydd Mawrth rhwng 4 - 5 pm i blant 9 - 14 mlwydd oed. Cysylltwch â Swyddog Cymunedol y Clwb, Lee Dixon drwy ffonio 01248 811508 am fanylion pellach, neu drwy e-bost info@bangorcityfc.com. (23 Medi 2004)
PARTHAU POETH: Mae’n bosibl i newyddiadurwyr sydd efo’r cyfrifaduron diweddaraf anfon eu hadroddiadau yn gyflym drwy gyfres o leoliadau WiFi ger Ffordd Farrar. Yn ôl y cyfeiriadur WiFi 411 Online Hotspots mae gan y Waterloo, y Black Bull a’r Old Glan y cyfleusterau addas felly mae’n bosibl i newyddiadurwyr sychedig gael peint wedi’r gêm ac anfon eu hadroddiadau yr un pryd! (21 Medi 2004)
CYRRAEDD A GADAEL: Braf iawn yw cael croesawu’r amddiffynwr dawnus Phil Baker yn ôl wedi cyfnod yn Exeter, Aberystwyth a Droylsden. Rydym yn ffarwelio ag Aled Rowlands sydd wedi gwasanaethu’r Clwb dros sawl tymor ond sydd wedi dioddef o nifer o anafiadau yn ddiweddar. Mae’r Clwb yn diolch yn fawr iawn iddo am ei wasanaeth ac yn dymuno’n dda iddo. (9 Medi 2004).
TRADDODIAD TEULU DOGAN YN PARHAU: Crewyd hanes yn y gêm rhwng Bangor a Chaernarfon yng Nghwpan Cynghrair Loosemeore pan ddaeth y chwaraewr canol cae ifanc Gareth Dogan ymlaen fel eilydd. Golygai hyn fod pedair cenhedlaeth o’r teulu wedi chwarae dros y clwb ac mae Gareth yn dilyn ôl traed ei hen daid Thomas, ei daid Eddie a’i dad Chris a chwareodd i’r ail dîm yn y 1980au. (3 Medi 2004)
TÔT: Rhifau buddugol TÔT Dinas Bangor yr wythnos yma oedd 44 a 47. Doedd dim ennillydd, felly bydd gwobr yr wythnos nesaf yn codi i £500.00. Mae canlyniadau blaenorol y TÔT ar dudalen y TÔT. (29 Awst 2004)
CWPAN Y GYNGHRAIR: Bydd Dinas Bangor yn wynebu gwrthwynebwyr anodd o’r Canolbarth gan y bydd rhaid i ni deithio i Barc Latham, Y Drenewydd, yn rownd gyntaf Cwpan y Gynghrair 2004/5. Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 4 Hydref. Yng Nghwpan y Gynghrair bydd clybiau o Nationwide Cymru, Prif Gynghrair Cymru ac "alltudiaid" yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn fformat dileu (knock-out), ac yn ystod blynyddoedd cynt mae hyn wedi golygu gwobr ariannol sylweddol i’r buddugwyr. (29 Awst 2004)
NEWID DYDDIAD GÊM (ETO): Y newyddion diweddaraf yw y bydd cymal oddi cartref ein gemau yng Nghwpan y Gynghrair yn erbyn Tref Caernarfon yn cael ei chwarae nawr yn yr Oval ar ddydd Mawrth 14 Medi, yn hytrach nag ar y dwirnod wedyn, fel y cyhoeddwyd o’r blaen. (29 Awst 2004).
LAWNSIO GWISG ODDI CARTREF: Mae’r crys oddi cartref 2004 ar gael nawr. Crys coch ag ymylon gwyn yw hwn, a bydd yn sicr o fod yn ychwanegiad poblogaidd i amrediad nwyddau Clwb Dinas Bangor – cewch weld yr amrediad cyflawn ar dudalen Siop y Clwb. Mae’r eitemau i gyd yn gystadleuol o ran pris, ac mae disgownt i aelodau’r Gymdeithas Gefnogwyr. (29 Awst 2004)
"SHAKER" YN DOD YN ÔL. Mae’r Rheolwr Peter Davenport wedi llwyddo i gael y chwaraewr canol cae poblogaidd Simon "Shaker" Davies i ddod yn ôl i Heol Farrar. Roedd cyn-seren Manchester United, Rochdale a Macclesfield yn Chwaraewr y Tymor ym Mhrif Gynghrair Cymru yn 2002/3 yn ystod ei gyfnod blaenorol gyda Bangor, lle’r oedd yn Gapten y Clwb, a sgoriodd wyth gôl mewn 57 o gemau yn y gynghrair. Mae Davies wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf gyda thîm llawn-amser TNS yn y Canolbarth, ond mae ar gael nawr ar gyfer gêm nesaf Dinas Bangor – y penwythnos yma yn erbyn Porthmadog – ac mae’n sicr o gael croeso cynnes gan gefnogwyr Bangor. (26 Awst 2004)
DINAS BANGOR – LLUNIAU LLIW! Gallwch archebu lluniau lliw o sgwad a chwaraewyr unigol Dinas Bangor 2004 (fel y rhai’r ydym yn eu defnyddio ar y wefan yma) o’r Clwb nawr, am £3.00 (£2.75 i aelodau’r Gymdeithas Gefnogwyr). Wedi eu printio ar bapur lluniau A4 gloyw, mae’r portreadau’n swfenir delfrydol i gefnogwyr y Clwb a’r union beth i gasglwyr llofnodion. Anfonwch eich archebion a’r tâl i’r cyfeiriad arferol. (22 Awst 2004)
RHAGLENNI ANODD-I’W-CAEL AR WERTH: Bydd cefnogwyr yn gwybod bod y rhaglen swyddogol ar gyfer gêm Cwpan Intertoto rhwng Dinas Bangor a Gloria Bistrita (21 Mehefin 2003) yn anodd i ddod o hyd iddi gan ein bod yn credu bod y copïau i gyd wedi cael eu gwerthu tua hanner awr cyn dechrau’r gêm. Rydym wedi llwyddo i gael gafael ar 40 copi o’r rhaglen, a bydd 30 ohonynt ar werth yn Siop y Clwb yn ystod y gêm yn erbyn y Trallwng ar ddydd Sadwrn, am £1.25. Bydd y deg copi arall yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant ar Ebay. Bydd cefnogwyr sy’n bell o gartref yn gallu gwneud cais amdanynt hefyd drwy e-bost neu drwy’r post (byddwn yn derbyn stampiau, nid sieciau os gwelwch yn dda), ond bydd pobl sy’n galw mewn person ar ddydd Sadwrn yn cael blaenoriaeth. (19 Awst 2004).
CAP LES: Les Davies oedd y chwaraewr diweddaraf o Glwb Bangor i ennill anrhydeddau rhyngwladol pan ddaeth i’r cae fel eilydd hwyr yn y gêm gyfartal 0 - 0 yn erbyn Tîm dan-21 Latvia, a chwaraewyd yn Riga yn ddiweddar. Les oedd yr unig chwaraewr o Brif Gynghrair Cymru i chwarae yn y gêm, ac yn ystod ei amser i ffwrdd gyda’r sgwad, cymysgodd â sêr ifanc o glybiau fel yr Arsenal, Manchester United, Caerdydd a Kaiserslauten. Clayton Blackmore o Ddinas Bangor yw Rheolwr Cynorthwyol Tîm dan-21 Cymru. Darllenwch adroddiad BBC Cymru o’r gêm yma. (19 Awst 2004)
NEWIDIADAU I’R RHESTR GEMAU: Bu newidiadau i gemau dechrau’r tymor Dinas Bangor ers cyhoeddi’r rhestr gemau wreiddiol. Bydd gêm y Clwb yn erbyn Y Trallwng ar ddydd Sadwrn 21 Awst yn cael ei chwarae nawr ar Heol Farrar, a bydd y gemau gartref ac oddi cartref yng Nghwpan y Gynghrair yn erbyn Caernarfon yn cael eu chwarae nawr ar ddydd Mawrth 31 Awst a dydd Mercher 15 Medi. Bydd y rhestr gemau yn cael ei diweddaru drwy’r amser ar y wefan yma ynghyd â’r newidiadau diweddaraf. (15 Awst 2004)
COEDEN DEULUOL DOGAN: Gallai’r chwaraewr canol cae ifanc Gareth Dogan fod yn un o’r bedwaredd genhedlaeth o’i deulu i chwarae i Ddinas Bangor, yn dilyn ei dad Chris, ei daid Eddie a’i orhendaid Thomas. Mae Gareth yn sgwad tîm cyntaf y Clwb nawr ac mae’n un o sawl chwaraewr ifanc sy’n ceisio dal llygad y rheolwr Peter Davenport. Edrychwch ar adroddiad y Western Mail am y stori drwy glicio yma. (15 Awst 2004)
LAWNSIO GWISG NEWYDD Y CLWB: Dadlennwyd amrediad nwyddau Dinas Bangor 2004 ar Ddiwrnod Hwyl y Gymdeithas Gefnogwyr yn ddiweddar. Mae trowsus cwta a chrysau polo Nike yn ogystal â hen ffefrynnau fel sgarff y clwb, watsus a ffotograffau. Mae’r eitemau i gyd yn gystadleuol o ran pris, ac mae disgownt i aelodau’r Gymdeithas Gefnogwyr. Edrychwch ar dudalen Siop y Clwb ar y wefan yma am fwy o fanylion. (15 Awst 2004)
ENNILLYDD CLWB 200: Ennillydd lotri clwb '200' am fis Gorffennaf yw Mr Hughes o Fangor. Mae’n ennill £222.50 ar gyfanswm incwm o £890.00 am y mis - 89 o aelodau.Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran – os oes gennych chi ddiddordeb neu os ydych chi’n adnabod rhywun a hoffai ymuno rhowch eu henw a’u rhif cyswllt i ni - ffoniwch Brian ar 01492 515002. Edrychwch ar dudalen Clwb 200 ar y chwith am fwy o fanylion. (12 Awst 2004)
TOCYNNAU TYMOR: Mae tocynnau tymor 2004/05 ar gael nawr, am yr un prisiau â’r llynedd ac maen nhw’n caniatáu i chi fynd i’r gemau gartref i gyd. Dyma’r prisiau - Oedolion £99.00, Pobl Hŷn a Myfyrwyr £60.00 a Phlant £25.00 Gallwch archebu’r tocynnau drwy E-bost i’r Clwb, drwy ffonio Brian Lucas ar 01492 515002 neu drwy anfon siec, yn daladwy i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, i brif gyfeiriad y Clwb. Cofiwch roi eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn rhag ofn bydd angen i ni gysylltu â chi (4 Awst 2004).
GOODALL YN GADAEL Y CLWB. Mae capten y Clwb a Chwaraewr y Flwyddyn bresennol Alan Goodall wedi gadael Clwb Dinas Bangor i ymuno â Rochdale yng Nghynghrair Dau Coca Cola. Er ein bod yn teimlo’n drist o golli Alan, sydd wedi bod yn un o chwaraewyr mwyaf cyson Bangor yn yr amddiffyn ac yng nghanol y cae dros y tymhorau diwethaf, mae’n braf cael gweld ffefrynnau’r Clwb yn symud yn eu blaenau. (29 Gorffennaf 2004)
PETER SMITH. Mae Clwb Dinas Bangor wedi arwyddo’r chwaraewr ymosodol Peter Smith o’r Drenewydd. Ganed Peter, sy’n 25 mlwydd oed, yn Rhuddlan a dechreuodd ei yrfa yn Crewe Alexandra lle yr ymddangosodd 22 o weithiau iddynt yn y gynghrair. Wedyn chwaraeodd i Macclesfield a Telford United cyn symud i’r Drenewydd, gan sgorio 13 o golau mewn 32 o gemau cynghrair y tymor diwethaf. Dechreuodd Peter yn wych i Fangor drwy sgorio deirgwaith yn erbyn Caernarfon yr wythnos ddiwethaf. (Gyda diolch i www.citizens-choice.co.uk) (27 Gorffennaf 2004)
TÔT: Rhifau buddugol TÔT Dinas Bangor yr wythnos yma yw 3 ac 19. Doedd dim ennillydd, felly bydd gwobr yr wythnos nesaf yn codi i £200.00. Mae canlyniadau blaenorol y TÔT ar dudalen y TÔT. (25 Gorffennaf 2004).
ENNILLYDD CLWB 200: Ennillydd lotri clwb '200' am fis Mehefin yw Mr Roberts o Ynys Môn. Mae’n ennill £222.50 ar gyfanswm incwm o £890.00 am y mis - 89 o aelodau.Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran – os oes gennych chi ddiddordeb neu os ydych chi’n adnabod rhywun a hoffai ymuno rhowch eu henw a’u rhif cyswllt i ni - ffoniwch Brian ar 01492 515002. Edrychwch ar dudalen Clwb 200 ar y chwith am fwy o fanylion. (12 Gorffennaf 2004)
TOCYNNAU TYMOR: Mae tocynnau tymor 2004/05 ar gael nawr, am yr un prisiau â’r llynedd ac maen nhw’n caniatàu i chi fynd i’r gemau gartref i gyd. Dyma’r prisiau - Oedolion £99.00, Pobl Hŷn a Myfyrwyr £60.00 a Phlant £25.00 Gallwch archebu’r tocynnau drwy E-bost i’r Clwb, drwy ffonio Brian Lucas ar 01492 515002 neu drwy anfon siec, yn daladwy i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, i brif gyfeiriad y Clwb. Cofiwch roi eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi (6 Gorffennaf 2004).
|