Clwb Pêl-droed Bangor yn dangos y ffordd - Bangor Football Club showing the way
Yn ddiweddar mae Clwb Pêl-droed Bangor wedi dod yn faes chwaraeon cyntaf yng Ngwynedd i fod yn ‘Ddi Fwg’.
Bydd Clybiau Pêl-droed a Rygbi Porthmadog, Bethesda a Phwllheli yn dilyn Bangor yn agos i fabwysiadu statws ‘Di Fwg’.
Dywedodd Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Gwynedd Iach, Cyngor Gwynedd:
“Mae ysgyfaint iach yn rhydd o fwg yn bwysig i unrhyw chwaraeon. Mae’n wych fod Bangor, Porthmadog, Bethesda a Phwllheli yn cefnogi’r cynllun.
“Y nod yw annog amgylchedd glan di-fwg i holl wylwyr yn ogystal â lleihau sbwriel sigaréts. Mae’r cynllun hefyd wedi ei ddylunio i sicrhau fod plant mewn amgylchedd di-fwg. Rydym yn gobeithio cydweithio gyda meysydd chwaraeon eraill yng Ngwynedd yn y dyfodol i fod yn ‘Ddi Fwg’.”
Am gymorth i roi’r gorau i ysmygu cysylltwch â ‘ Dim Smygu Cymru’ ar 0800 0852219 neu ymwelwch â’ch fferyllfa lleol.
Bangor Football Club has recently become the first sports ground in Gwynedd to become ‘Smoke Free’.
Bangor will be closely followed by Porthmadog, Bethesda and Pwllheli Football and Rugby Clubs, who are also adopting the ‘Smoke Free’ status.
Councillor Mair Rowlands, Gwynedd Council Cabinet Member for Healthy Gwynedd said:
“Healthy lungs free from smoke are important for any sport. It’s great that Bangor, Porthmadog, Bethesda and Pwllheli are supporting the scheme.
“The aim is to encourage a clean smoke free environment for all spectators as well as decreasing cigarette litter. The scheme is also designed to ensure that kids are in a smoke free environment. We hope to be able to work with other sports grounds in Gwynedd in the future to become ‘Smoke Free’.”
For help to stop smoking contact Stop Smoking Wales on 0800 0852219 or visit your local community pharmacy.
Bangor City Football Club, The Book People Stadium, Holyhead Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2HQ